Trwydded tai amlbreswyliaeth

Tŷ amlbreswyliaeth yw tŷ neu fflat sy’n brif gartref i ddau deulu neu fwy a ble mae rhai o’r teuluoedd yn rhannu cyfleusterau sylfaenol fel bathrwm, toiled neu gyfleusterau coginio.

Os ydych yn gosod eiddo fel tŷ amlbreswyliaeth, efallai fod arnoch angen trwydded gan eich awdurdod lleol.

Amcan y trwyddedu yw sicrhau bod landlordiaid yn bobl gymwys ac addas, bod y llety’n cyrraedd y safonau angenrheidiol a bod tai risg uchel yn cael sylw.

Mae’n drosedd rhedeg tŷ amlbreswyliaeth heb drwydded. Gellir mynd â pherchnogion a rheolwyr sy’n gwneud hynny i’r llys a rhoi dirwy o £20,000 iddynt am y drosedd, a gall tenantiaid wneud cais am orchymyn Ad-dalu Rhent, fyddai’n golygu bod y landlord yn gorfod talu gwerth hyd at 12 mis o rent yn ôl.

Mae 2 fath o drwydded:

  1. Trwydded orfodol
    Ar gyfer tŷ â 3 llawr neu fwy, lle mae mwy na 5 person o ddau deulu neu fwy yn byw. Y ffi am drwydded orfodol yr £160 am bob uned yn ychwanegol i £50 i brosesu'r cais.
  2. Trwydded ychwanegol
    Ar gyfer pob tŷ arall mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu gwneud y drwydded ychwanegol yn daladwy drwy Wynedd i gyd er mwyn cynnal safonau. Y ffi am y drwydded hon yw £160 am bob uned yn ychwanegol i £50 i brosesu'r cais.

Meini prawf cymhwysedd
Rhaid gwneud cais i’r awdurdod tai lleol.

Bydd ffi yn daladwy.

Rhaid i chi fod yn berson cymwys a phriodol i ddal y drwydded.

Proses gwerthuso’r cais
Caniateir trwydded:

  • os yw’r tŷ yn addas ar gyfer amlbreswyliaeth, neu os gellir ei wneud yn addas
  • os yw’r ymgeisydd yn berson addas a chymwys ac mai ef yw’r person mwyaf addas i ddal y drwydded
  • os oes gan y rheolwr arfaethedig reolaeth ar y tŷ, a’i fod yn berson addas a chymwys i fod yn rheolwr
  • os yw’r trefniadau rheoli’n foddhaol.

Rhybuddion Cyhoeddus

Gwneud cais
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01286 682853.

Deddfau perthnasol
Deddf Tai 2004 
Crynodeb o’r deddfau


A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae'n ofynnol i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.


Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Gallwch apelio mewn tribiwnlys eiddo preswyl.

Rhaid gwneud unrhyw apêl o fewn 28 diwrnod i’r penderfyniad.


Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Gallwch apelio mewn tribiwnlys eiddo preswyl ynglŷn ag amodau a roddwyd ar drwydded neu unrhyw benderfyniad i amrywio neu dynnu trwydded yn ôl.

Rhaid gwneud unrhyw apêl o fewn 28 diwrnod i’r penderfyniad.

Cymdeithasau masnach
British Property Federation (BPF)
Propertymark

 

Oes gan fy eiddo i drwydded amlbreswyliaeth?

Fel tenant, mae gennych yr haul i gysylltu â'ch Asiant neu Landlordb er mwyn gwybod a oes gan eich eiddo drwydded amlbreswyliaeth (HMO) ai peidio. 

Os oes arnoch angen fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Cyngor am fanylion er mwyn i ni fedru gwirio cofrestr y trwydded.

 

Cofrestr Gyhoeddus

Mae copi o’r rhestr gyhoeddus TAD ar gael i’w gweld yn Galw Gwynedd, Swyddfa Pencadlys, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH drwy gysylltu gyda ein Cymhorthydd Gweinyddol Trwyddedu a Gorfodaeth ar 01286 682 853 er mwyn trefnu apwyntiad.

 

Mae copi electronig o’r rhestr hefyd ar gael am ffi o £75 drwy drosglwyddiad banc.