Chwiliadau pridiannau tir lleol

Gallwn ddarparu gwybodaeth chwiliadau ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno prynu eiddo neu dir o fewn Ardal yr Awdurdod Lleol.

Mae’r chwiliad yn gyfres o gwestiynau safonol wedi eu dylunio i roi cymaint o wybodaeth â phosib i’r darpar brynwr am yr eiddo neu dir.

Fel arfer, twrnai neu drosglwyddwr trwyddedig sydd yn gofyn am chwiliad. 

Mae 3 math gwahanol o chwiliad:

  • Ffurflen LLC1
    Gwybodaeth a restrir ar y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol a ddatgelir yn y ffurflen LLC1. Bydd yn nodi os oes ffioedd ariannol yn ddyledus, yn ogystal â manylion am unrhyw orchmynion torri coed, grantiau adnewyddu, cadwraeth ac adeiladau rhestredig ac ati.
  • Ffurflen Con29
    Holiadur am y tir/eiddo wedi’i anfon i adrannau amrywiol o fewn Cyngor Gwynedd yw chwiliad Con29.

    Mae Rhan 1 yn rhoi atebion i gyfres o gwestiynau safonol am y eiddo ac yn nodi manylion am unrhyw gynlluniau lleol ar gyfer yr ardal, rheoliadau adeiladu a phenderfyniadau cynllunio, cynlluniau traffig, cytundebau ffyrdd ac ati.

    Mae Rhan 2 yn rhoi atebion i ymholiadau ychwanegol os gofynnir rhai, er enghraifft, tir comin, llwybrau cyhoeddus, hysbysiadau cwblhau ac ati.
  • Chwiliad personol 

    Nid yw apwyntiadau chwiliad personol ar gael ar hyn o bryd. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra. Close

    Gall unrhyw un gynnal chwiliad personol. Noder mai chwiliad o’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn unig yw hwn ac nid yw’n cynnwys y rhan fwyaf o’r wybodaeth sy’n cael ei amlinellu yn y CON29.

    Os am wneud chwiliad personol, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad: (byddwch angen cyfeiriad llawn yr eiddo/ tir, enw’r chwiliwr personol a rhif ffôn cyswllt.)
    (01286) 679 647.

Er gwybodaeth: Mae rhan o Barc Cenedlaethol Eryri yn syrthio o fewn ffiniau Gwynedd. Os yw eiddo/tir yn syrthio o fewn yr ardal honno, byddwn yn casglu’r wybodaeth cynllunio perthnasol gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar eich rhan.  

Rydym yn annog i chi gyflwyno eich cais arlein, ond gallwch gyflwyno cais drwy'r post ac e-bost.

  • Arlein:

    Defnyddiwch un o'r gwefannau allanol isod i gyflwyno eich cais a thalu arlein

    Cyflwyno chwiliadau ar-lein i Gyngor Gwynedd drwy TMG 

    Cyflwyno chwiliadau ar-lein i Gyngor Gwynedd drwy NLIS

  • E-bost:

    E-bostiwch eich ffurflenni a chynllun lleoliad at pridiannautir@gwynedd.llyw.cymru byddwn wedyn yn cysylltu â chi i drefnu taliad unai drwy drosglwyddiad banc neu gerdyn debyd/credyd dros y ffôn.
    E-bostiwch eich ffurflenni a chynllun lleoliad (gyda ffiniau'r eiddo sydd i'w chwilio wedi ei amlinellu yn amlwg mewn coch) at pridiannautir@gwynedd.llyw.cymru. Byddwn wedyn yn cysylltu â chi i drefnu taliad.

  • Post:

    Swyddfa Caernarfon
    Cyfeiriad: Pridiannau Tir Lleol, Cyngor Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
    DX: CYNGOR GWYNEDD DX713560 CAERNARFON 5
    Ffôn: (01286) 679647 
  • Wrth gyflwyno chwiliad, bydd angen cynnwys:
    - Copïau gwreiddiol a dyblygiadau o ddogfennau chwiliadau LLC1 a Con29
    - 2 gopi o’r Cynllun Arolwg Ordnans gyda’r holl eiddo i’w chwilio i’w amlinellu’n eglur mewn coch.
    - Y ffi perthnasol (gweler isod). 

     

Sieciau yn daladwy i Cyngor Gwynedd (siec twrnai nid siec y client)

Ffioedd Chwiliadau Tir Lleol 2024/25

Dŵr Cymru sy’n gyfrifol am ymdrin ag ymholiadau yn ymwneud â draenio.