Cyfleon tendro

Mae'r linc isod yn cynnwys rhestr o'r contractau cyfredol Cyngor Gwynedd (sydd yn fyw) yn ogystal â chyfleoedd tendro arfaethedig y gallwn ei hysbysebu yn y dyfodol agos.

Mae’r rhestr yn cynnwys contractau a chytundebau fframwaith sydd werth dros £50,000 am nwyddau a gwasanaethau rydym yn eu pwrcasu yn rheolaidd yn ogystal â chyfleoedd sengl ar gyfer gofynion / prosiectau penodol.

Bwriad y rhestr hon yw i  ganiatáu’r farchnad i adnabod beth rydym yn ei brynu a pryd mae contractau ar fin cael eu hadolygu / hysbysebu. Trwy wneud y wybodaeth hyn ar gael, ein nod yw i roi amser i gyflenwr a darparwyr i:-

1.         Godi ei ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anghenion y gwasanaeth a phrosesau dendro.

2.         Ddatblygu ei gwasanaethau mewn termau capasiti a’r safon sydd yn ofynnol

3.         Edrych i ffurfio consortium (gwneud cais ar y cyd) pan yn addas.

4.         Ddatblygu arloesedd

 

Gweld rhestr o gontractau (diweddarwyd Medi 2023)

Datganiad atebolrwydd: - Nid yw’r Cyngor yn ymrwymo i brynu'r nwyddau na’r gwasanaethau hyn yn y dyfodol. Nid yw ychwaith yn gwarantu ei fod am adnewyddu unrhyw un o’r contractau hyn. Bydd hyn yn benderfyniad i’r adrannau perthnasol o fewn y Cyngor. Nid yw’r rhestr yn cynnwys holl gontractau’r Cyngor. Byddwn yn ymdrechu i ddiweddaru'r rhestr mor gyson ag sydd yn bosib ond ni allwn draddodi i unrhyw amserlen.

I gael rhagor o wybodaeth am y brosesau tendro a'r cymorth sydd ar gael cymorth sydd ar gael ewch i adran "Broses Dendro" a "Cymorth i Dendro" o'r wefan hon.

Os rydych angen rhagor o wybodaeth neu gymorth gallwch gysylltu a Cydlynydd Cyswllt Busnes Gwynedd ar 01286 679213 neu e-bostiwch caffael@gwynedd.llyw.cymru