Parhad busnes

O dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004 Adran 4(1) a Rheoliadau y Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004 (Cynlluniau Argyfyngau) 2005 Rhan 7, fe'i gwneir yn ofynnol i awdurdodau lleol roi cyngor a chymorth i'r rhai hynny sy'n ymgymryd â gweithgareddau masnachol ac i sefydliadau gwirfoddol yng nghyswllt rheoli parhad busnes (RhPB) pe ceid argyfyngau (yn ôl diffiniad y Ddeddf).


Beth yw Rheoli Parhad Busnes (RhPB)?
Proses sydd wedi'i chynllunio ymlaen llaw yw Rheoli Parhad Busnes ac sy'n sicrhau bod darparwyr busnes a gwasanaeth yn gallu goroesi digwyddiadau annisgwyl ac aflonyddgar sy'n cael effaith ar eu gwaith bob dydd a sicrhau adferiad unwaith eto. Bydd digwyddiadau pwysig, lefelau uchel o absenoldeb staff (beth bynnag yw'r achos) a gwasanaethau sylfaenol yn methu, e.e. trydan, nwy a dŵr yn profi gallu sefydliad i reoli ei fusnes.

Mae'n rhoi'r fframwaith strategol i wella gwydnwch (gallu gwrthsefyll) sefydliad yn erbyn ymyrraeth. Ei bwrpas yw hwyluso systemau a phrosesau busnes allweddol i gael adfer ei fusnes, a hynny mewn amser penodol.

Proses barhaus yw Rheoli Parhad Busnes sy'n helpu sefydliadau i ragweld aflonyddwch, beth bynnag yw ei darddiad a pha bynnag agwedd o'r busnes y mae'n cael effaith arni, ac i baratoi ar ei gyfer, ei osgoi, ymateb iddo ac adfer busnes wedi'r digwyddiad.

Gall methu ag ymateb i ddigwyddiadau o'r fath gael effaith drychinebus ar unrhyw fusnes. Yn ôl y Swyddfa Archwilio Cenedlaethol, mae 80% o fusnesau y mae digwyddiad difrifol yn cael effaith arnynt yn cau am byth neu'n rhoi'r gorau i fasnachu cyn pen 18 mis; mae hyn yn tanlinellu yr angen ar gyfer Rheoli Parhad Busnes a Chynllunio Parhad Busnes (RhPB & CPB)


Beth yw'r Drefn gyda Chynllunio Parhad Gwasanaeth?
Mae 5 pump cam yn y cylch RhPB sy'n cynnwys: deall eich busnes, strategaethau RhPB, datblygu ymateb RhPB, dilyn y diwylliant ac yna arfer, cynnal a chadw ac archwilio.


Rhagor o wybodaeth

Cynllunio Parhad Busnes - Cyffredinol

Taflenni gwybodaeth