Safonau Masnach - cyngor i fasnachwyr

Mae ein tîm Safonau Masnach yn gweithio i helpu hyrwyddo amgylchedd masnachu teg a diogel ar draws Gwynedd.  Rydym yn cefnogi busnesau trwy godi ymwybyddiaeth a diogelu buddiannau defnyddwyr a busnesau cymuned y Sir trwy roi cyngor ac arweiniad.

 

Mae’r gyfraith yn nodi bod gwerthu nwyddau sydd â chyfyngiadau oed i bobl dan oed yn drosedd gyda chosbau amrywiol.

Mae'r tabl isod yn rhestru gwahanol nwyddau gyda'r cyfyngiadau oedran perthnasol:

Cyfyngiadau oedran
 NwyddauOed cyfreithiol 
 Nwyddau Tybaco  18
 Tân Gwyllt  18
 Alcohol  18
 Ticedi Loteri a chardiau crafu  18
 Adlenwi tanwydd sy’n cynnwys ‘butane’  18
 Cyllyll ac arfau bygythiol  18
 Cynwysyddion paent erosol   16
 Ffilmiau, DVDs's a gemau cyfrifiadur  12, 15, 18

Adnoddau Defnyddiol

 

Fel busnes mae'n bwysig eich bod chi yn gallu sicrhau eich cwsmeriaid eich fod yn gwmni dibynadwy. Gall Prynu gyda Hyder eich helpu i wneud hyn. 

Manteision bod yn aelod

  • Cael eich gweld fel busnes dibynadwy a gonest
  • Menter annibynnol felly cysylltu gyda un cwmni yn unig i drafod
  • Mynediad i arbenigedd a chyngor Safonau Masnach
  • Cael eich rhestru ar wefan Prynu Gyda Hyder

Pwy sy'n gallu ymuno?

Busnesau sydd wedi masnachu dros 6 mis.
Rhaid i fusnesau fynd trwy'r broses wirio cyn cael eu derbyn.

Faint yw'r gost?
Mae ffi blynyddol, sy’n ddibynnol ar maint eich cwmni i fod yn aelod o’r fenteri.

Sut mae gwneud cais?
Gwneud cais ar-lein

Manylion pellach
Gwefan:
Prynu Gyda Hyder (gwefan Saesneg)
Ar-leinYmholiad ar-lein: safonau masnach
Ffôn: 01766 771 000

Os ydych yn gosod llety wedi ei ddodrefnu neu ei rannol ddodrefnu fel gweithgaredd busnes, lle mae darparu’r llety yn cynnwys cyflenwi nwyddau, mae’r gyfraith yma yn berthnasol i chwi. Esiamplau yw tai, fflatiau, fflatiau un ystafell, llety gwyliau, carafannau a chychod.

Mae’r gyfraith yn berthnasol i asiantwyr gosod, arwerthwyr tai a landlordiaid preifat.

 

Manylion Cyswllt

Ymholiad ar-lein: safonau masnach

Adrodd pryder ar-lein: safonau masnach

Ffôn: 01766 771000

Cyfeiriad: Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH