Prynu'n Lleol

Mae adfywio canol trefi wedi bod yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd ers nifer o flynyddoedd, ac mae’r pandemig COVID-19 diweddar wedi dod a sylw pellach i’r angen i gefnogi canol trefi yn ei ymdrechion i ail-agor yn dilyn y cyfnodau clo hir. Mae’r rhaglen Prynu’n Lleol yn edrych i adnabod ymyraethau a chyfleoedd i hyrwyddo'r cynnyrch sydd gan fusnesau a threfi Gwynedd ac i annog trigolion ac ymwelwyr i brynu’n lleol. Mae pwysigrwydd hyn wedi ei adnabod ar lefel strategol er mwyn sicrhau fod elw busnesau yn ailgylchu o fewn yr economi leol, cefnogi busnesau a chymunedau lleol o fewn y Sir ynghyd a datblygu economi hyfyw a chynaliadwy. 

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu ymgyrch hyrwyddo cyfryngau cymdeithasol yn annog trigolion ac ymwelwyr i Wynedd i brynu’n lleol a chefnogi ein busnesau lleol. Mae cyfle i chi helpu gyda’r gwaith pwysig drwy rannu manylion am fusnesau yn eich ardal chi sy’n gwasanaethu eich cymunedau, sy’n cynnig cynnyrch lleol, cynnyrch o’r safon uchaf a phrofiad siopau unigryw.  

Os ydych yn ymwybodol o gwmniau lleol sy’n gwasanaethu ein cymunedau e-bostiwch PrynuLleol@gwynedd.llyw.cymru, tagiwch a rhannwch gyda chyfrifon FacebookTwitter neu

Instagram Prynu'n Lleol.

Mae’r Cyngor wedi creu adnoddau fel logo a Giffiau i fusnesion eu defnyddio- 

Adnoddau 

Yn ychwanegol i’r adnoddau digidol, mae’r Cyngor wedi cynhyrchu arwyddion 'Agor a Cau' a ‘wobblers’, sy’n gallu cael eu gosod ar silffoedd neu ger y cownter, i chi eu defnyddio yn eich busnes i hyrwyddo negeseuon Prynu’n Lleol. Mae rhain i’w cael yn Rhad ac Am Ddim drwy yrru ebost efo’ch cyfeiriad llawn i prynulleol@gwynedd.llyw.cymru

Isod mae enghraifft o fideo cafodd ei gynhyrchu i hyrwyddo prynu’n lleol, yn ystod dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, sy’n cynnwys troslais o gerdd ysgrifennwyd gan y bardd Rhys Iorwerth ar gyfer yr ymgyrch.

 

www.prynulleol.cymru

prynulleol@gwynedd.llyw.cymru