Mae Cyngor Gwynedd wedi adnabod bod angen ymgynghori ar ddyfodol darpariaeth addysg Ysgol Coed Menai ar gyfer disgyblion gydag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol.
Mae wedi ei adnabod ers peth amser fod angen adeilad mwy addas ar gyfer anghenion amrywiol y disgyblion, er mwyn galluogi eu haddysgu yn y modd priodol.
Mae'n fwriad sefydlu Uned Cyfeirio ar gyfer cefnogi disgyblion ag anawsterau ymddygiad a darparu cefnogaeth ymddygiad dwys o fewn ysgolion uwchradd Gwynedd hefyd.
Fel rhan o'r broses ymgynghori bydd Asesiad Ieithyddol a Chymunedol yn cael ei chynnal gan Ymgynghorydd Annibynnol, sef Dylan Bryn Roberts. Mae'r gwaith eisoes ar droed ac mae copïau o Holiadur Cymunedol isod, ynghyd â llythyr blaen yn esbonio'r broses.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r Adran Addysg ar 01286 685022 neu e-bostiwch trefniadaeth.ysgolion@gwynedd.gov.uk