|
Chwilio am ddigwyddiad
Arddangosfa yn ailagor
Dyddiad: 28/08/2010 - 18/09/2010 | Lleoliad: Canolfan Hanes Uwchgwyrfai Ffordd y Pererinion - o Glynnog Fawr i Enlli - ailagorir yr arddangosfa boblogaidd hon - Awst 28 - 18 Medi ar b'nawniau Sadwrn a Mercher yn unig. 1:30 - 4:00 Cyngerdd gyda Hogia'r Berfeddwlad
Dyddiad: 03/09/2010 | Lleoliad: Ysgol Crud y Werin, Aberdaron | Cysylltiad: 01758 760 473 yn ysgol Crud y werin am 8 o'r gloch Gwŷl Gelf y Bermo
Dyddiad: 04/09/2010 - 11/09/2010 | Lleoliad: Barmouth | Cysylltiad: 01341 280392 Wythnos o digwyddiadau gwahanol yn Theatr y ddraig a manau eraill. Amazing Psychic Nights - Shaun Dennis Clairvoyance
Dyddiad: 09/09/2010 - 09/09/2010 | Lleoliad: Y Ganolfan | Cysylltiad: 0151 281 5539 Tocynnau yn £12 ac ar werth yng Nghanolfan Dwristiaid Porthmadog. (01766 512 981) Sioe yn cychwyn am 8pm. Darganfyddwch Llŷn
Dyddiad: 16/09/2010 | Lleoliad: Maes Parcio Cwrt | Cysylltiad: 01766 510 120 Profwch arfordir hardd Llŷn ar dripiau cwch arbennig. 10 o'r gloch y bore neu 1 o'r gloch y prynhawn. Pris i gynnwys tywysydd a the prynhawn. Nofio noddedig yn Llyn Tegid
Dyddiad: 26/09/2010 - 26/09/2010 | Lleoliad: Bala | Cysylltiad: 02920 668276 Diabetes Cymru yn trefnu nofio noddedig yn Llyn Tegig am filltir o hyd. Pobl dros 15oed yn unig, ac i hel o leiaf £150 at yr Elusen. Mary Lloyd Jones
Dyddiad: 03/07/2010 - 18/09/2010 | Lleoliad: Amgueddfa ac Oriel Gwynedd | Cysylltiad: 01248 353368 Ers pan yn ifanc byddai Mary Lloyd Jones yn ymgolli yn yr oll a welai ac a glywai o’i chwmpas; yr olion ers cloddio a ffermio, y patrymau manwl yng nghwilt ei nain, y chwedlau hudolus gan storïwr lleol. Cyfrannodd y profiadau cynnar hyn at greu artist yr adnabyddwn heddiw am ei defnydd arbennig o liw, llinell ac ysgrif hynafol. Mae diddordeb Mary mewn tirwedd hynafol a safleoedd archeolegol yn cael ei fynegi yn yr arddangosfa hon. Y Grug a'r Caerau
Dyddiad: 31/07/2010 - 18/09/2010 | Lleoliad: Amgueddfa ac Oriel Gwynedd | Cysylltiad: 01248 353368 Sut y mae dadansoddi’ tirwedd? Daeth prosiect Y Grug a’r Caerau ac archeolegwyr, amgylcheddwyr ac artistiaid at ei gilydd. Yn eu tro maent yn gwella ein dealltwriaeth a’n gwerthfawrogiad o’r bryngaerau ym mryniau Clwyd. Drwy ddarluniau archeolegol, ffotograffau o’r awyr a phaentiadau ynghyd a nodiadau maes a darganfyddiadau a wnaed gan Brifysgol Bangor gwelwn rai ffyrdd o ddadansoddi’r tirwedd hynod hwn. Cyfeirnod Gweledol, arddangosfa gelf gan Vivienne Rickman-poole
Dyddiad: 11/08/2010 - 08/09/2010 | Lleoliad: Canolfan Maenofferen | Cysylltiad: 01766 831415 Arddangosfa Gelf Toy Story 3
Dyddiad: 13/08/2010 - 26/09/2010 | Lleoliad: Tywyn Magic Lantern Cinema | Cysylltiad: 01654 710260 Arddangosfa Ffordd y Pererinion o Glynnog Fawr i Enlli
Dyddiad: 28/08/2010 - 18/09/2010 | Lleoliad: Canolfan Hanes Uwchgwyrfai | Cysylltiad: 01286 660853 Arddangosfa newydd a agorwyd ym Mehefin/Gorffennaf yw hon ac fe'i hailagorir ar brynhawniau Sadwrn a Mercher gan gychwyn ar 28 Awst. Yn ogystal â'r eglwysi diddorol ar y ffordd, rhoddir sylw i henebion, ffynhonnau â'u rhinweddau meddyginiaethol, a mannau o ddiddordeb neilltuol ar yr arfordir. Cyflwynir y cyfan fesul ardal drwy gyfrwng gwybodaeth ddifyr a lluniau trawiadol [yn cynnwys rhai gwych wedi eu tynnu ô'r awyr]. Yn ogystal bydd cyfle i weld ffilm ¼ awr o safon broffesiynol sy'n cyd-fynd â'r arddangosfa a cheir gweld Gardd Uwchgwyrfai. 1-30 4.00yp Dyddiau Sadwrn a Mercher Twilight Saga : Eclipse
Dyddiad: 02/09/2010 - 04/09/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Mae'n rhaid i Bella ddewis rhwng ei chariad Edward a'i ffrind gorau Jacob When in Rome
Dyddiad: 03/09/2010 - 04/09/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Cysylltiad: 01758 704088 Theatr Bara Caws yn cyflwyno taith
Dyddiad: 03/09/2010 - 23/09/2010 | Lleoliad: Amrywiol | Cysylltiad: 01286 676335 Henaint, unigrwydd a brad cyfrinachau sydd wrth galon drama ddiweddaraf Aled Jones-Williams. Unwaith eto ma’ ei huodledd cyhyrog yn ein harwain i fannau tywyll yn y ffyrdd mwya’ difyr, yn dal llusern gynnes ar ymyl y dibyn oeraf un. Hon yw’r diweddaraf o ddramâu Aled i gael ei chyflwyno gan Gwmni Theatr Bara Caws ac fel ‘Beth Oedd Enw Ci Tin Tin’, ‘Lysh’ a ‘Sundance’ mae addewid o ddrama sy’n berwi o syniadau, o ddeialog disglair ac o weledigaeth eofn a digyfaddawd. Fe fydd y cwmni’n teithio’r ddrama o amgylch Gwynedd ar y dyddiadau canlynol:
Taith gerdded Coed Llyn Mair
Dyddiad: 04/09/2010 - 04/09/2010 | Lleoliad: Plas Tan y Bwlch | Cysylltiad: 01248 351541 Ymynwch a warden y CCW, Doug Oliver, am daith gerdded o gwmpas y goedwig yn Coed Llyn Mair ger Maentwrog, i ddarganfod y byd natur anhygoel a golygfeydd bendigedig sydd gan yr ardal hon iw gynnig. '21' Ty Newydd
Dyddiad: 04/09/2010 - 05/09/2010 | Lleoliad: Tŷ Newydd, Llanystumdwy | Cysylltiad: 01766 522811 ymunwch a ni wrth i ni edrych yn ôl a dathlu 21ain fel Y Ganolfan Iaith Genedlaethol, ac yn edrych ymlaen i gyfnod newydd o weithgareddau llenyddol deinamig. Dydd Sadwrn, 4ydd Medi a Dydd Sul 5edMedi, yn Nhû Newydd, Llanystumdwy. Llenyddiaeth, cerddoriaeth, barddoniaeth, bar, bwyd, cwmni da.....a llawer o hwyl! MUDO Cefyn Burgess
Dyddiad: 04/09/2010 - 09/10/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Y Côr Siambr Ffilharmonig Estonaidd
Dyddiad: 05/09/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Mae'r Côr Siambr Ffilharmonig Estonaidd - côr syfrdanol sy'n enwog am eu sain gaboledig - yn cyflwyno byd sain anhygoel eu cydwladwyr Arvo Part, un o hoff gyfansoddwyr y byd sy'n fwy heddiw ac sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed eleni. Mae synau atgofus y Baltig yn cael eu cymhlethu â gosodiadau salmau cynhyrfus Mendelssohn (Op.78) a chylch caneuon serch Nordig hardd Sibeilius, Y Cariadon. Yn ddi-os, dyma un o gorau a cappella gorau'r byd. TONIC gyda Carl Jones a Beverly Smith
Dyddiad: 06/09/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Mae cerddorion Carl Jones a Beverly Smith yn wynebau cyfarwydd ar y sin gerddoriaeth draddodiadol, mewn gwyliau ac ar record, mewn dawnsfeydd ac mewn bandiau amrywiol, yn chwarae bob dim sydd i'w chwarae dydd â thannau gan ychwanegu harmonïau lleisiol. Y canlyniad yw dehongliadau cerddorol syml o'r hen ar newydd. Whatever Works
Dyddiad: 08/09/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Dawn Deud gyda Sharon Morgan
Dyddiad: 09/09/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Mae Sharon yn wyneb cyfarwydd iawn i ni yma yng Nghymru, ac wedi bod yn perfformio ar lwyfannau theatr ac ar y teledu ers y 70au cynnar. Roedd Sharon yn un o griw a ffurfiodd Theatr Bara Caws a Hwyl a Fflag, ac wedi actio mewn rhaglenni a ffilmiau gan gynnwys Grand Slam Martha Jac a Sianco, Caerdydd a Talcen Caled. Enillodd Gwobr Actores Orau BAFTA Cymru 1998 ar ei rhan yn Tair Chwaer. Y tymor hen mae Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru yn teithio Cymru gyda'u cynhyrchiad diweddaraf Gwlad yr Addewid, cyfieithiad Sharon Morgan o House of America ( Ed Thomas) a fydd yn y Galeri 14-16 o Fedi. Bydd panned o de a bara brith i ddilyn Toy Story 3
Dyddiad: 09/09/2010 - 11/09/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Noson Talent Newydd
Dyddiad: 10/09/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Yn hogyn o dre, mae Dion Jones yn dychwelyd i Galeri i rannu ei ganeuon newydd gyda ni, a hynny mewn awyrgylch anffurfiol gyda'i gyfaill a chyd gerddor Thomas Hayes. Dewch, da chi i gefnogi. Dyddiau Dawns Lindy Hop
Dyddiad: 11/09/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Bydd Aberswing yn dysgu y Lindy hop-ddawns i bartneriaid sydd yn tarddu o'r 1930au a 40au i ddechreuwyr. Does dim agen profiad na phartner ar gyfer y gweithdy yma. Gwisgwch ddillad addas - esgidiau a dillad cyfforddus a dewch a digon o ddŵr. Amser 11 - 4 Sesiwn Creu Ffilm
Dyddiad: 11/09/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Yn galw gwneuthurwyr ffilm ifanc a brwdfrydig (Oedran 10+) Diwrnod intensif, difyr ac ymarferol o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Eilir Pierce yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen ar gyfer creu ffilm fer, sgriptio, i'r gwaith camera, y cyfarwyddo ar golygu. NIFER LLE YN GYFYNGEDIG Karate Kid
Dyddiad: 12/09/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Gwlad yr Addewid - Theart Genedlaethol Cymru
Dyddiad: 14/09/2010 - 16/09/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Cyfieithiad i'r Gymraeg gan Sharon Morgan o'r ddrama ffrwydrol House of America. Wedi i'w tad eu gadael er mwyn byw'r freuddwyd yn America, mae'r brawd a chwaer Sid a Gwenny yn creu byd ffantasi i'w hunain er mynd dianc rhag bywyd anobeithiol - ond a ydynt yn dechrau mynd yn rhy agos? Mae eu brawd, Boyo, yn fachgen y cymoedd ond heb ei wreiddiau ac mae eu mam yn mynd yn wallgof wedi iddi ladd cath o'r enw Brando ac mae hi'n cael ei chorddi fwyfwy wrth i waith glo brig dresmasu ar y tir o amgylch cartref y teulu. Mae ganddi hi gyfrinach.....sydd ddim yn gyfrinach..... Taith Ystlumod
Dyddiad: 15/09/2010 - 14/09/2010 | Lleoliad: Glynllifon | Cysylltiad: 01286 679381 taith o amgylch Glynllifon a chyfle i weld y creaduriaid dirgel sy'n dod allan yn y nôs. dewch a fflachlamp!! 7:30yh - 9;30yh HFS : Ajami
Dyddiad: 16/09/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Ffilm ac isdeitlau Ajami yw'r gymuned gymysg o Gristnogion a Mwslemiaid yn Tel Aviv. Enillodd y ffilm Oscar am ei phortread grymus o fywyd yn Ajami Peter and the Wolf
Dyddiad: 18/09/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Cysylltiad: 01758 704088 Stori dylwyth teg clasurol efo tro gwahanol iddi, wrth inni am unwaith edrych arni o safbwynt y blaidd druan. Gan gynnwys theatr gysgodion a cherddoriaeth afaelgar Prokofiew. Mae'r perfformiad hwn yn rhan o'r PowWow Pypedol 2010 a'r Tren Pypedau Cyntaf yn y Byd. Storm o Straeon 2
Dyddiad: 18/09/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Prynwch eich tocyn aur, paciwch eich bagiau ac ymunwch gyda ni ar daith tros foroedd dwfn yr isymwybod, tirweddau breuddwyd a dinasoedd tyrog y dychymyg. O theatr bypedau i weithdai pypedau, o gistiau trysor hudol i ddarlithoedd sy'n peri i ni feddwl. P'un ai a ydych chi'n ifanc neu'n ifanc mewn ysbryd, bydd rywbeth newydd i chi ddarganfod! Pawb at y Bwrdd! am fwy o fanylion ewch ar y wefan neu ffoniwch y rhif isod. Gweithdy Cymeiriadu Un-Dydd Gogledd Cymru
Dyddiad: 18/09/2010 - 18/09/2010 | Lleoliad: Venue Cymru | Cysylltiad: 01492 532277 Cynhelir gweithdy Cymeiriadu gan Gymdeithas Ddrama Cymru a Venue Cymru ac ein gwestai arbennig yr arbenigwr theatrig, Ian Rowlands.Yn ystod y gweithdy bydd Ian Rowlands yn dangos ffyrdd o ddatblygu gwahanol gymeiriadau trwy edrych ar script, gan ddod a'r cymeiriadau allan o'r script i'r llwyfan Letters To Juliet
Dyddiad: 20/09/2010 - 23/09/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Cysylltiad: 01758 704088 The Old Curiosity Shop
Dyddiad: 21/09/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Cysylltiad: 01758 704088 Addasiad gan Stewart Howson o nofel Charles Dickens, sy'n dangos yr awdur ar ei mwyaf doniol tra hefyd yn llwyddo i bortreadu'r frwydr oesol rhwng da a drwg. Le Concert ( The Concert)
Dyddiad: 22/09/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Ffilm gyda isdeitlau. Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, cafodd Andrei Simoniovich Filipov, arweinydd adnabyddus cerddorfa'r Bolshoi ei ddisgwyddo am gyflogi cerddorion Iddewig. Bellach yn gweithio fel glanhawr yn y Bolshoi, drwy hap a damwain daw i ddeall fod Theatr y Châtelet ym Mharis wedi gwahodd cerddorfa y Bolshoi i berfformio yno. Inception
Dyddiad: 23/09/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Ffilm gyffrous sy'n gwithio'r ffiniau, gan gyfarwyddwr 'The Dark Knight' Christopher Nolan. Gyda Leonardo DiCaprio Cyngerdd Capel Llwyndyrus
Dyddiad: 24/09/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Cysylltiad: 01758 704088 Cyngerdd yng nghwmni: Band yr Oakeley, Anni Llŷn, Trebor Lloyd Evans, Rhys Meilyr ac yn cyfeilio Catrin Alwen Jaleo Flamenco
Dyddiad: 24/09/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Dewch i fyd lliwgar a hudolus y fflamenco i fwynhau dawnsio, canu a cherddoriaeth gîtar Andalwsaidd. MAe dawswtd newydd yn ymuno â Jaleo ar y daith hon, gan gynnwys y sêr newydd anhygoel, Ma Jose Leon ac Adolfo Vega. Mae Jaleo yn llawn egni cignoarth a rhythmau synhwyrus sydd mor gynhenid i fflamenco, wrth gyfuno enfennau hanfodol i fflamenco gyda'u hangerdd a'u hemosiwn Sbaenaidd unigryw a chyfareddol eu hunain. Perfformiad syfrdanol gan rai o artistiaid fflamanco arobryn gorau o dde Sbaen, sy'n dawnsio'n wrefreiddiol, yn canu'n adleisiol, yn chwarae gitar yn feistrolgar acyn curo ei dwylo i'r curiad. Cantorion Colin Jones
Dyddiad: 25/09/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Cyfle i glywed un o'r corau meibion mwyaf blaenllaw Cymru, gyda'i sain dihafal, ynghŷd a'r côr gŵadd, Coro Bossi, Morbegno, (Cyfaill dref Llanberis) yr Eidal Jaleo
Dyddiad: 25/09/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Daw Jaleo i Theatr Harlech i berfformio eu sioe fythgofiadwy. Yn ffrwydriad egniol o fflamenco a cherddoriaeth, bydd y gynulleidfa yn cael ei tywys ar daith gyffrous drwy symudiad a rhythm dawns. The Last Airbender
Dyddiad: 25/09/2010 - 30/09/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Cysylltiad: 01758 704088 Grŵp artistiaid Betws-Y-Coed
Dyddiad: 25/09/2010 - 13/11/2010 | Lleoliad: Amgueddfa ac Oriel Gwynedd | Cysylltiad: 01248 353368 Rhwng 1844 a 1914 fe ffurfiodd y grŵp o artistiaid Betws-y-Coed gnewyllyn o beintio tirwedd a phwnc a greodd yn ei dro fyd o gelf genedlaethol yng Nghymru. Treuliai artistiaid megis David Cox eu hafau yn rheolaidd yn peintio a darlunio ym Metws-y-Coed. Denodd hyn nifer eraill o artistiaid ac ymwelwyr o amgylch y byd yno. Yn bennaf o gasgliadau preifat, fe welir gweithiau gan David Cox a Henry Clarence Whaite ymysg eraill yn yr arddangosfa hon. Jeremy Yates : Craig a Dŵr
Dyddiad: 25/09/2010 - 13/11/2010 | Lleoliad: Amgueddfa ac Oriel Gwynedd | Cysylltiad: 01248 353368 Brasluniau ac astudiaethau o greigiau a dŵr gan Jeremy Yates RCA mew dyfrlliw, acrylig ac olew o’r ddwy flynedd ddiwethaf. Mae rhai o’r darnau yn weithiau paratoadol ar gyfer lluniau mawr a gwaith fideo ffotograffig i’r dyfodol o raeadrau ac afonydd ysbrydoledig gogledd Cymru megis Conwy, Machno a’r Ogwen. Inception
Dyddiad: 29/09/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Cwrs Cynllunio a Gosod Arddangosfa Gelf
Dyddiad: 30/09/2010 | Lleoliad: Caernarfon | Cysylltiad: 01286 679721 Cyfle i ddysgu artisitaid sut i gynllunio a gosod arddangosfa Gelf. Am Fwy o wybodaeth cysylltwch a ni. HFS: Bule Eyelids
Dyddiad: 30/09/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Ffilm gydag isdeitlau Ffilm ramantus newydd Ernest Contreras, y cyfarwyddwr o Fecsico Noson Gyday 3 Gog a'r Hwntw
Dyddiad: 01/10/2010 | Lleoliad: Clwb Rygbi Bangor | Cysylltiad: 01248 602323 Noson o adloniant ysgafn yng nghwmni criw hwyliog o Llanuwchllyn i godi arian er budd yr Ŵyl Cerdd Dant Glannau Menai. Oases
Dyddiad: 01/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Band Teyrnged Oasis Cyfle i ail-fyw y 90au! Bydd Oases yn ail greu perfformiadau byw gwych y band gyda chlasuron enwog fel 'Don't look back in anger' a 'Wonderwall' The Hot Dots
Dyddiad: 01/10/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Stori Serch acrobatig. Stori hyfryd dilmadwy a chyffrous gan Gwmni Syrcas So & So am Frank ac Evie, prerfformwyr vandeville a ddisgynnodd mewn cariad yn ystod yr haf 1932. Mae perfformiadau acrobatig unigryw So & So yn gwenud The Hot Dots yn sioe ddiguro. Os ydych chi am chwerthin, nos ydych chi am grio: yn fwy na dim, os ydych yn mwynhau adloniant sy'n hoelio eich sylw, yna dyma's sioe i chi. Inception
Dyddiad: 01/10/2010 - 07/10/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Cysylltiad: 01758 704088 Cor y Werin : Acappella gyda Top Shelalas
Dyddiad: 02/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Mae aelodau y Top Shelalas yn barod i rannu eu harbenigedd cerddorol yn y gweithdy yma! Byddwch yn barod i ganu caneuon o wahanol gefndiroedd cerddorol a dysgu harmonïau gwahanol ar gyfer canu acapela DAMAGE yn cyflwyno Caryl Parry Jones yn fyw
Dyddiad: 02/10/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Pan gyfansoddodd Caryl "Calon" nol yn 1977, prin y gwyddai gymaint y buasai ei cherddoriaeth yn ganolog i'r sin roc Gymraeg am y ddeg mlynedd ar hugain nesa, a gymaint o hwyl oedd y siwrnai am fod. Dyma gyfle unigryw i weld a chlywed Caryl, ar ei phen ei hun, yn perfformio detholiad o'i chlasuron, wrth ddatgelu'r straeon doniol tu ôl i bob can - hyd yn oed y baledi 'smwchi'. Chwerthin, crio, pwdu a phechu - hyn oll gefn llwyfan wrth iddi baratoi i'ch diddanu. Dewch yn llu i dreulio noson gyda'r ddynes a ddisgrifiwyd gan Duffy fel "yr Elvis Cymraeg" Diwrnod Canu Corawl Cwmni Opera Cymru.
Dyddiad: 02/10/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Dewch o hyd i'ch llais gyda Chwmni Opera Cymru mewn gweithdy hwyliog hyd o ddiwrnod. Bydd Cyfarwyddwr Cerdd y cwmni yn eich arwain drwy ddetholiad o gytganau o blith operâu presennol y Cwmni Opera gan eich dysgu i ganu yr hyn a glywir ar y llwyfan. Top Shelalas
Dyddiad: 02/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Triawd cerddorol yw'r Top Shelalas. Wedi ei ffurfio yn wreiddiol er mwyn canu acapela, maent bellach wedi ychwanegu gitâr, ukulele, ffidil a chelo i'w perfformiad cyffrous. Mae ei steil yn dilyn ôl troed cerddorion fel Janis Ian a Tracy Chapman Cats and Dogs - The Revenge of Kitty Galore
Dyddiad: 03/10/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Arddangosiadau Celf
Dyddiad: 05/10/2010 - 28/10/2010 | Lleoliad: Trefriw Woolen Mill | Cysylltiad: 01492 640462 Dyddiau mawrth Hydref 5ed,12fed, 19eg,26ain Arddangosiad gwneud ffelt gan Anne Campbell. Dyddiau mercher Hydref 6ed,13eg 20fed,27ain.Arddangosiad nyddu a llaw gan Gwendolyn Docksey. Dyddiau iau Hydref 7fed,14eg,21ain,28ain, Arddangosiad gwneud 'rag rugs' gan Christine Birch 10.00yb-5.00yh Falstaff
Dyddiad: 06/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Perfformiad fan Mid Wales Harlech o Falstaff, opera enwog Verdi. Stori am arian, cenfigen a chariad, peidiwch a methu'r cyfle i'w weld. Partir (Leaving)
Dyddiad: 06/10/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Isdeitlau Mae Suzanne, sy'n briod ac yn fam, ac sy'n byw yn Ne Ffrainc. Ond mae ei bywyd bourgeois segur yn codi'r felan arni ac mae'n penderfynu mynd yn ôl i weithio fel ffisiotherapydd. The A-Team
Dyddiad: 07/10/2010 - 08/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Cantorion Sirenian
Dyddiad: 08/10/2010 | Lleoliad: Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau | Cysylltiad: 01341 421186 Noson wedi ei drefnu gan Clwb Cerdd Dolgellau Gweithdy Ysgolion - Beth yw Opera?
Dyddiad: 08/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Beth yw opera? Dewch i weithdai i ddarganfod bod mwy i opera na chantorion tew! cysylltwch a'r theatr er mwyn sicrhau lle! Reslo
Dyddiad: 08/10/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Cysylltiad: 01758 704088 Unwaith eto bydd y Cymry yn brwydro yn erbyn Archsêr America yn y sgŵar Ensemble Cymru yn cyflwyno Mucas Manos!
Dyddiad: 09/10/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Cysylltiad: 01758 704088 Cyfuniad bywiog o gerddoriaeth Cymru, Siapan, Sbaen a'r Ariannin yng nghwmni'r delynores Eleanor Turner, yr offerynnwr taro Dewi Ellis Jones a'r ffliwtydd Jonathan Rimmer. Piranha
Dyddiad: 09/10/2010 - 14/10/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Cysylltiad: 01758 704088 HFS: Atanarjuat
Dyddiad: 10/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780778 Ffilm ac isdeitlau Wedi ei seilio yn yr Artic dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, dyma ddilyn am gymuned "arallfydol", yn dilyn defodau hudolus hen chwedl. The Girl with the Dragon Tattoo
Dyddiad: 13/10/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Ddeugain mlynedd yn ôl, yn ystod achlysur teuluol ar ynys y teulu Vangner pwerus diflannodd Harriet Vagner. Ni chafodd ei chorff erioed ei ddarganfod ond mae ei hewythr yn argyhoeddedig ei bod wedi ei llofruddio ac mai un o'r teulu clos ond camweithredol ei hun oedd y llyfrydd... Cyd-gynhyrchiad gan Theatrau Rhondda Taf/Asgard Cherryholmes a Christopher Rees
Dyddiad: 14/10/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Mae "teulu pennaf canu Bluegrass" yn mynd ar ei thaith gyntaf o amgylch Cymru yn ystod tymor yr Hydref eleni. Mae'r pedwerydd albwm o'r enw "Common THreads" newydd gael ei gyhoeddi. Bydd y cyngerdd yma'n cadarnhau pan yr enillodd Cherryholmes wobr Diddanwr y Flwyddyn yn 2005 gan gymdeithas international Bluegrass Music Association, a'r rheswm dros enwebu'r albwm Cherryholes II (2006) a "Don't Belive" am Grammy. Daeth Cherryholmes i'r llwyfan gyda meistrolaeth offerynnol eginol a harmonïau o leisiau ffrwydrol - y math o harmonïau tynn sydd ddim ond th bosibl i deuluoedd gyflawni. Christopher Rees fydd eu gwestai arbennig ar y daith. Cafodd ei bedwerydd albwm, o'r enw "Devil's Bridge" ei ganmol i'r cymylau. Meddai'r cylchgrawn Mojo: " A spit and sawdust holler that's as close to a Southern hell-fire preacher as you can get hailing from Cardiff. Very, very good". Gainsbourg
Dyddiad: 14/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 ffilm ag isdeitlau Portread o'r cerddor arbennig, Serge Gainsbourg, yn dilyn ei hanes o'i ddyddiau ym Mharis yn yr 1940au Elvis Rocks
Dyddiad: 15/10/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Cysylltiad: 01758 704088 Hane staith anhygoel y "Brenin" o'i wreiddiau cerddorol di-nôd ym Memphis ar fod yn seren ddisgleiriaf y byd canu poblogaidd. Gyda Steve Halliday a Michael King Cherryholmes
Dyddiad: 16/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Mae'r "teulu pennaf canu Bluegrass" yn mynd ar ei daith gyntaf o amgylch Cymru yn ystod tymor yr Hydref eleni. Daeth Cherryholmes i'r llwyfan gyda meistrolaeth offerynnol egniol a harmonïau o leisiau ffrwydrol - y math o harmonïau tynn sydd ond yn bosibl i deuluoedd eu cyflawni. Christopher Rees yw'r gwestai arbennig . Cafodd ei bedwerydd albwm o'r enw "Devil's Bridge" ei ganmol i'r cymylau. Dance Day Salsa
Dyddiad: 16/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780778 .Barod am ychydig o ddawnsio Cuban? Does dim agen bod yn arbenigwr er mwyn dod i ddysgu'r Merangue a'r chacha. Cofiwch wisgo dillad cyfforddus ac esgidiau dawnsio Going the Distance
Dyddiad: 16/10/2010 - 20/10/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Cysylltiad: 01758 704088 Llyr Williams and the Beethomvern Cycle
Dyddiad: 17/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Rydym yn falch iawn o gael cyflwyno'r pianydd anhygoel Llŷr Williams i Harlech am gyfres o gyngherddau fydd yn cyflwyno sonatau olaf Beethoven. No16 in G major Op 31/1 No 17 in D Minor Op 31/2 'Tempest' No 18 in E flat major Op31/3 No 21 in C major Op53 'Waldstein' Wythnos Ffilm Genedlaethol i Ysgolion
Dyddiad: 18/10/2010 - 20/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Cyfle i ddisgyblion Ysgolion Gwynedd gael gweld ffilmiau am ddim. Y Ffilmiau How To Train Your Dragon Alvin And The Chipmunks: The Squeakquel Diary of a Wimpy Kid Ffoniwch am fwy o wybodaeth neu archebu tocynnau. Seperado
Dyddiad: 20/10/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 ymunwch â Gruff Rhys ar daith dros sawl cyfandir i chwilio am ei ewythr o Batagonia, y gitarydd Rene Griffiths. HFS: Samson and Delilah
Dyddiad: 21/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Ffilm ag isdeitlau Wedi cael eu herlid o'u cymuned frodorol, mae'n rhaid i Samson a Delilah geisio gwneud bywyd newydd o fewn diwylliant hollol wahanol Sound Affairs - Afrodisiac
Dyddiad: 21/10/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Cysylltiad: 01758 704088 Awn ar grwydr drwy'r byd trofannol mewn gwledd o gerddoeaeth a chelf weledol fydd yn ein tywys i gyfandir Affrica, Brasil ac ynysoedd cyffrous y Caribî The Karate Kid
Dyddiad: 22/10/2010 - 25/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Knight and Day
Dyddiad: 22/10/2010 - 28/10/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Cysylltiad: 01758 704088 Burton
Dyddiad: 23/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Drama yn dilyn bywyd diddorol yr actor Cymraeg enwog - Richard Burton. O blentyndod cyffredin ym Mhontrhydyfelen i fywyd a oedd ymhell o fod yn gyffredin : Hollywood, Liz Taylor a Cleopatra!! Draw Rhodri Miles a stori Burton i'r llwyfan yn y sioe un-dyn hon The Big Draw
Dyddiad: 23/10/2010 | Lleoliad: Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Ymunwch a'r arlunudd Mari Gwent ar gyfer y Big Draw i wenud cerflun o Gastedd Garlech allon o ddefnyddiau wedi ei hailgylchu. Mae'r gweithdy i gyd am ddim ac yn addas i bawb (Dylai plant dan 10 ddod gyda oedolyn) Marmaduke
Dyddiad: 23/10/2010 - 28/10/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli | Cysylltiad: 01758 704088 Dawns Hanner Tymor Hip Hop
Dyddiad: 25/10/2010 - 26/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Dau ddiwrnod o weithdai hip hop ar gyfer merched a bechgyn 7 - 16 oed gyda Ceri Rimmer Ar y dydd Mawrth cyfle i'r plant arddangos ei sgiliau o flaen cynulleidfa. JezO's Magic and Laughter Show
Dyddiad: 26/10/2010 | Lleoliad: Neuadd Dwyfor | Cysylltiad: 01758 704088 Y consuriwr Jeremy Bond ddaw â hud, chwethin a chastiau fydd yn twyllo'r llygad i'n llwyfan, mewn sioe a fydd yn apelio'n arbenig at blant 4-10 oed. The Last Airbender
Dyddiad: 26/10/2010 - 28/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Seabright Productions Potted Pirates
Dyddiad: 27/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Daw cyflwynwyr direidus CBBC, Da a Jeff, yn ôl i Harlech gyda mwy o hwyl a drygioni nag erioed. Dewch i'w gwylio err eu taith fel môr ladron wrth iddynt hwylio yn bell bell dros y moroedd. Oedran 6+ The Girl Who Played With Fire
Dyddiad: 27/10/2010 | Lleoliad: Galeri | Cysylltiad: 01286 685222 Is Deitlau Mae Mikael Blamkvist cyhoeddwr y cylchgrawn Millennium, yn ennill ei fywoliaeth drwy ddatgelu arferion llwgr anonest gweithwyr y sefydliad yn Sweden Ignacio Jacquin - Caruso & The Quake
Dyddiad: 29/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 perfformaid gymrus yn dilyn dihangfa y tenor Enrico Earuso o ddaeargryn San Fransisco. Cyfuniad o straeon ac opera gan Puccini & Rossini. Cor y Werin : Ignacio Jacquin
Dyddiad: 30/10/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Gweithdy 3 awr gyda cyfarwyddwr côr Brighton Gay Men a fu'n cymrud rhan yn y rhaglen boblogaidd 'Last Choir Standing' Marathon Eryri
Dyddiad: 30/10/2010 - 30/10/2010 | Lleoliad: Nant Peris | Cysylltiad: 01286 677785 Marathon o gylch traed y Wyddfa. Gan ddechrau yn Nant Peris a ac i fyny y Pass tuag at Beddgelert. Trwy Rhyd Ddu a Waunfawr ac i fyny tuag at Bwlch y Groes cyn dod lawr i'r diwedd yn Llanberis. Celfyddydau mewn Iechyd
Dyddiad: 02/11/2010 | Lleoliad: Bryn Menai, Bangor | Cysylltiad: 01248 363943 Mae’r cwrs Celfyddydau mewn Iechyd yn hyfforddiant rhagarweiniol ar gyfer Arlunwyr Ymarferol, gweithwyr Iechyd a Gofal sydd gyda diddordeb datblygu a chefnogi celfyddydau a chelfyddydau mynegiannol mewn iechyd a lles. Mae’r cwrs yn addas i Arlunwyr Ymarferol a ymgeiswyr sydd yn gweithio yn y maes Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Gofal, Addysg, Gwasanaethau Gwirfoddol, Gwasanaethau Brofiannaeth a Charchar sydd â diddordeb datblygu ei llwybr gyrfa. Mae'r cwrs yn rhedeg am 12 wythnos. Catfish Keith
Dyddiad: 03/11/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Perfformiwr blues a gwerin gyffrous iawn. Mae Catfish Keith yn enwog am ei arddull arbennig sydd yn siŵr o gael y gynulleidfa yn tapio eu traed i'r gerddoriaeth. HFS: Anonyma : A woman in Berlin
Dyddiad: 04/11/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Ffilm ag isdeitlau. Ffilm bwerus gan Max Farberbock wedi ei seilio ar ddydddiadur merch ddi-enw o Ferlin yn ystod dyddiau olaf yr Ail Ryfel Byd. Kate Griffiths, Trebor Lloyd Evans a Eirian Owen
Dyddiad: 05/11/2010 | Lleoliad: Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau | Cysylltiad: 01341 421186 Noson wedi ei drefnu gan Clwb Cerdd Dolgellau gyda'r Soprano Kate Griffiths, a'r bariton Trebor Lloyd Evans ac ar y piano Eirian Owen Dyddiau Dawns Belly Dance
Dyddiad: 06/11/2010 | Lleoliad: Theatr Harlech | Cysylltiad: 01766 780667 Mae croeso mawr i bawb i'r gweithdy hwn, does dim angen bod yn arbenigwr! Dewch i ddysgu am sut i symud ycorff yn steil y belly dancer. Bydd Ramonayn dysgu y ddawns i chi yn ystod y dydd a bydd cyfle i berfformio i ffriniau a theulu yn ystod y min nos. Talwrn y Beirdd Gwyl Gerdd Dant Glanau Menai
Dyddiad: 11/11/2010 | Lleoliad: Neuadd Powis Bangor | Cysylltiad: 01248 602323 Ymryson y Beirdd pryd y bydd 3 thîm o feirdd - Tîm Bangor/Ogwen, Tîm Ynys Môn a Thîm Gweddill Cymru yn mynd ben ben â’i gilydd am deitl a Thlws Gŵyl Cerdd Dant Glannau Menai 2010. Gwyl Gerdd Dant Glannau Menai, 2010
Dyddiad: 13/11/2010 - 13/11/2010 | Lleoliad: Neuadd Pritchard-Jones Gwyl Gerdd Dant Glannau Menai, 2010 Cyngerdd gyda Anna-Liise Bezrondy (ffidil) a Alexander Karpeyev (piano)
Dyddiad: 26/11/2010 | Lleoliad: Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau | Cysylltiad: 01341 421186 Noson yng nghwmni y chwaraewraig ffidil Anna-Liise Bezrondy ac ar y piano Alexander Karpeyev Noson gyda'r pianydd Slava Sidorenko
Dyddiad: 14/01/2011 | Lleoliad: Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau | Cysylltiad: 01341 421186 Noson wedi ei drefnu gan Glwb Cerdd Dolgellau Cyngerdd a Pedwarawd Holywell
Dyddiad: 11/02/2011 | Lleoliad: Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau | Cysylltiad: 01341 421186 Cyngerdd a gynhelir gan Glwb Cerdd Dolgellau, gyda Phedwarawd Holywell Diweddarwyd: 02/09/2010
|