Erbyn heddiw yng Ngwynedd ceir dros 50.5 cilomedr (31½ milltir) o lwybrau pwrpasol ar gyfer cerdded a beicio, lle cewch ymlacio ymysg natur ac anghofio am broblemau'r byd tu allan. Mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cydweithio i ddarparu'r daflen hon, ble cewch wybodaeth am y pump lôn las sydd i'w cael yng Ngwynedd. Teithiau unigryw yw'r rhain a sefydlwyd ar hyd hen reilffyrdd sydd erbyn heddiw yn creu rhwydwaith eang. Lleolir y rhwydwaith yma yng Ngwynedd, sydd yn ardal unigryw o ran ei thirlun, ei diwylliant a'i phobl, ac yn gryf yn ei Chymraeg.
Yn ogystal â cheisio gwella eich mwynhâd o'r Lonydd Glas, 'rydym hefyd yn ystyried bod gwarchod y bywyd gwyllt, sydd i'w ganfod ar naill ochr i'r llwybrau, yn agwedd bwysig o'n gwaith rheoli. Mae'r llwybrau wedi eu harwyddo ac yn hawdd i'w defnyddio, gyda'r rhan fwyaf o wasanaethau megis ffôn a siopau i'w canfod bron ym mhob pentref. Pa ffordd well i ymweld â gwyrddni cefn gwlad Gwynedd nac i grwydro'r Lonydd Glas?
Cofiwch - Defnyddiwch y cysylltau ar y chwith i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y lonydd glas.