Mae clwb CoderDojoCymru, sef clwb codio cyfrifiadur ar gyfer pobl ifanc, yn cael ei gynnal pob dydd Sadwrn am 9.30am yn ystafell Gymuned Llyfrgell Caernarfon.
Dyma’r clwb y cyntaf o'i fath yng Nghymru a bydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng i ddysgu sut mae datblygu a chodio apps, creu rhaglenni cyfrifiadurol a gemau, adeiladu robotiaid, datblygu gwefannau a mwy.
Dylai pobl ifanc sydd â diddordeb mewn mynychu'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn gofrestru yma ar y wefan www.coderdojocymru.org Mae llefydd yn brin a dim ond pobl fydd wedi cofrestru o flaen llaw fydd yn cael mynychu.
Dywedodd Paul Sandham, o gwmni Geosho yng Nghaernarfon, sy'n un o'r datblygwyr lleol sy'n rhedeg y sesiynau: “Mae CoderDojo yn fudiad byd-eang sy’n tyfu’n gyflym iawn ac yn darparu clybiau codio cyfrifiadurol am ddim i bobl ifanc. Y bwriad yw creu a datblygu codio cyfrifiadurol mewn awyrgylch cymdeithasol llawn hwyl.
“Mae clybiau CoderDojos yn cael eu sefydlu, rhedeg a’u harwain gan wirfoddolwyr, gan alluogi aelodau i gwrdd â phobl sy’n mwynhau'r un gweithgareddau ac i rannu syniadau.
“Mae Dojos hefyd yn trefnu teithiau at gwmnïau technoleg ac ymweliadau gan siaradwyr gwadd i siarad am eu gyrfaoedd a'u gwaith.”
Dywedodd Sioned Williams, Pennaeth Gwasanaeth Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd: “Mae Cyngor Gwynedd yn cefnogi unrhyw ymdrech i annog mwy o bobl ifanc i ymddiddori yn faes technoleg gwybodaeth ac mae’n braf gweld y diwydiant lleol yn arwain y gad.
“Mae’r clybiau CodioDojo yn swnio yn ffordd hwyliog o ddysgu ac mae’n cyd-fynd â gweledigaeth menter Gwynedd Ddigidol y Cyngor sy’n gweithio i sicrhau fod gan bawb yn y sir gyfle i wneud y mwyaf o’r we a thechnoleg ddigidol, waeth ble maent yn byw na beth yw eu cefndir.”
Mae CoderDojo hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar feddalwedd ffynhonnell agored a meddalwedd am ddim, ac mae ganddynt rwydwaith cryf o aelodau a gwirfoddolwyr drwy’r byd.