Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2012 > Mai
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Mai |
 

Llenyddiaeth yn mynd ar daith

Bydd cyfle i bobl ymuno â thaith lenyddol arbennig o Amgueddfa Llanberis i gartref brenhines ein llên, Kate Roberts yn Rhosgadfan. Mae’r daith wedi ei drefnu gan Llenyddiaeth Gwynedd ddydd Sadwrn, 12 Mai.

Bydd y daith yn dechrau am 11am yn Amgueddfa Llanberis lle fydd cyfle i edrych o gwmpas yr amgueddfa a chael blas ar hanes a threftadaeth yr ardal. Bydd cyfle i brynu cinio yn y caffi neu fwyta eich brechdanau eich hunain cyn dal y bws am Cae’r Gors (cartref Kate Roberts) yn Rhosgadfan am 1.00pm.

Cewch gyfle i glywed sgwrs ddifyr gan y darlithydd Jerry Hunter am fywyd a gwaith Kate Roberts ac os fydd hi’n ddiwrnod braf bydd hefyd taith gerdded fechan i Lôn Wen, felly dewch a sgidiau addas.

Bydd te a chacen am ddim a bydd y bws yn cyrraedd nôl i Lanberis erbyn 4:00pm. Mae tocynnau yn £6-£7. Cysylltwch â Gwen Lasarus ar 01286 679465 neu GwenLasarus@gwynedd.gov.uk i archebu lle.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 08/05/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]