Mae’r wobr yn cydnabod y gwaith rhagorol sy’n cael ei gyflawni gan Gynlluniau Cyfeirio Cleifion i Ymarfer Corff ledled 22 o siroedd Cymru.
Eleni cafodd y wobr ei ennill gan ddau dîm; daeth Gwynedd yn gydradd gyntaf gyda Sir Gaerfyrddin gan nad oedd y beirniaid yn gallu dewis rhwng y ddau dîm. Yn 2011 daeth Gwynedd yn ail, ac mae ennill y gystadleuaeth eleni yn gydnabyddiaeth o’u gwaith caled.
Mae’r Cynllun Cyfeirio Cleifion i Ymarfer Corff yn targedu cleifion sydd â risg o ddatblygu clefyd cronig. Mae’r cynllun yn darparu cyfle i gleifion dderbyn rhaglen ymarfer corff o safon dan oruchwyliaeth staff cymwys i wella eu hiechyd a’u lles.
Dywedodd Emma Quaeck Cydlynydd Cynllun Cyfeirio i Ymarfer Corff Cyngor Gwynedd: “Rydym wrth ein boddau o fod wedi ennill y wobr, ac rydym i gyd yn teimlo’n frwdfrydig iawn am ein gwaith, yn enwedig wrth weld y gwahaniaeth mae’n ei wneud i fywydau pobl.
“Rydym i gyd yn gweithio’n galed i fynd gam ymhellach i sicrhau’r gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid ac mae’n braf iawn derbyn cydnabyddiaeth o hynny. Rydym wedi gweithio yn galed dros y pedair blynedd diwethaf i wella ein sgiliau a’n cymwysterau er mwyn gwella ein gwybodaeth i allu delio gyda’r gwahanol gyflyrau meddygol rydym yn dod ar eu traws yn ein gwaith, sydd wedi bod yn sialens ond hefyd yn fuddiol iawn.”
Gwnaeth y tîm argraff ar y beirniad o ganlyniad i’w gwaith gyda gweithgareddau cymunedol a’r fenter werdd newydd – yr ardd llysiau a ffrwythau sydd ar hyn o bryd yn cael ei dreialu yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog sy’n annog cwsmeriaid i wneud ymarfer corff tu allan.
Dywedodd Jannie Wyatt- Williams, Cydlynydd Cenedlaethol: “Mae datblygiad y Cynllun Cyfeirio Cleifion i Ymarfer Corff Cenedlaethol wedi gwella law yn llaw â safon cystadleuwyr, roedd hyn yn gwneud hi’n anodd iawn i ni ddewis un enillydd ar gyfer y wobr.
“Cafodd y beirniaid eu plesio gan ymdrechion Gwynedd a Sir Gaerfyrddin i ddatblygu partneriaethau i wella eu darpariaeth o’r cynllun. Derbyniodd prosiect graddio Gwynedd lawer o ganmoliaeth gan y beirniad am eu cynllun i ddatblygu agwedd ‘tyfu eich hunain’ a hybu bwyta’n iach.”
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Emma Quaeck ar 01766 512711 / 07768 988 095 neu emmaquaeck@gwynedd.gov.uk