Cynhaliwyd y galas nofio yng Nghanolfan Hamdden Arfon, Caernarfon – y cyntaf ar gyfer ysgolion cynradd â llai na 85 o ddisgyblion ac yna’r ail ar gyfer ysgolion cynradd gyda dros 85 o ddisgyblion.
Cafwyd cystadlu brwd gan y disgyblion i gyd, ond Ysgol Bethel ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth i ysgolion â llai na 85 o blant, gyda sgôr terfynol o 76, gydag Ysgol Waunfawr yn ail ac Ysgol Llandwrog yn drydydd. Roedd 13 o ysgolion yn cymryd rhan ar y diwrnod.
Llwyddodd yr ysgolion sydd â mwy na 85 o ddisgyblion i roi sioe a hanner hefyd gyda phedwar ysgol yn cystadlu. Ysgol y Gelli, Caernarfon enillodd gyda sgôr o 153, gydag Ysgol Llanrug yn ail ac Ysgol Bontnewydd yn drydydd.
Dywedodd Dyfed Glyn Davies, Swyddog Datblygu Gweithgareddau Dŵr Cyngor Gwynedd: “Cafwyd dau ddiwrnod llwyddiannus iawn yn y gala nofio gyda nifer o ddisgyblion ysgolion cynradd ardal Arfon yn mwynhau cystadlu yn y pwll gan gynrychioli eu hysgolion. Roedd hi’n braf gweld nofio o safon uchel iawn gan y plant, ac yn bwysicach, roedd pawb i weld yn cael llawer iawn o hwyl.”
Dywedodd Gerallt Roberts, Rheolwr Canolfan Hamdden Arfon: “Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Bethel ac Ysgol y Gelli am ddod yn fuddugol ac i’r holl ysgolion eraill am gymryd rhan a chefnogi'r ganolfan drwy’r flwyddyn. Hoffwn ddiolch i holl staff Canolfan Hamdden Arfon am eu gwaith yn ystod y ddau ddiwrnod ac i Dim Datblygu Chwaraeon Cyngor Gwynedd am eu help gyda’r gala.”
Am wybodaeth bellach am nofio a gweithgareddau dŵr yng Ngwynedd, cysylltwch â Dyfed Glyn Davies, Swyddog Datblygu Gweithgareddau Dŵr Cyngor Gwynedd ar (01286) 677983. Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o ganolfannau hamdden Gwynedd ewch i: www.gwynedd.gov.uk/canolfannauhamdden