Yn anorfod gyda chynllun o’r maint hwn, mae rhai materion yn codi yn lleol ac mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i wrando a gweithio gyda thrigolion lleol a’r gymuned fusnes i oresgyn unrhyw broblemau.
Meddai’r Cynghorydd Paul Thomas, cadeirydd Blaenau Ymlaen ac sy’n cynrychioli ward Bowydd & Rhiw (Blaenau Ffestiniog) ar Gyngor Gwynedd:
“Mae hi’n adeg cyffrous iawn yma yn y Blaenau, mae cymaint o gynlluniau ar y gweill a dwi’n awyddus iawn i ni fel Cyngor wrando a gweithio gyda phobl tra bo’r gwaith yn mynd yn ei flaen.”
Bydd sesiwn galw heibio yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher, 22 Chwefror yn Siambr y Cyngor Tref, Blaenau Ffestiniog rhwng 3pm a 6pm. Bydd croeso i drigolion a busnesau i alw i mewn i weld mwy ar y cynlluniau, i ddysgu pryd bydd gwaith yn mynd yn ei flaen ac i drafod unrhyw bwyntiau.
Mae’r gwaith ar y datblygiad yn cynnwys newidiadau cyffrous i ganol y dref, grantiau i adnewyddu siopau a chefnogi busnesau a marchnata. Mae’r gwaith yn cael ei ariannu gan Gyngor Gwynedd, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae nifer o bobl leol wedi elwa ar y cynllun yn barod - mae deg busnes yn manteisio ar gynllun i wella blaen siop, pum aprentis lleol yn cael cyfle gwaith, un lleoliad gwaith llawn amser i fyfyriwr ar gwrs HNC a tri o bobl a oedd yn ddi-waith yn cael eu cyflogi. Drwy ddefnyddio a dathlu llechi a gwenithfaen lleol drwy’r gwaith mae chwareli a busnesau lleol hefyd wedi manteisio ar y cynllun.
Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, sy’n arwain ar Economi a Chymuned ar Gyngor Gwynedd:
“Rwyf hefyd yn falch iawn mai fel rhan o’r amodau cymdeithasol arloesol a gafodd eu cynnwys yn y prosiect, bydd cwmnïau lleol yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith a bydd gweithwyr lleol yn cael eu cyflogi fel prentisiaid tymor byr ac yn derbyn hyfforddiant.”
Mae barn leol wedi bod yn hanfodol i’r gwaith o ddatblygu cynigion y prosiect ar gyfer gwella canol y dref, gyda’r grŵp adfywio lleol Blaenau Ymlaen yn chwarae rhan allweddol.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect adfywio, cysylltwch a: blaenauymlaen@gwynedd.gov.uk neu ffoniwch 01766 512499 / 01286679391 neu ewch i: www.gwynedd.gov.uk/blaenaeuymlaen