Mae’r Fforwm Mynediad Lleol yn cynghori’r Cyngor, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a chyrff eraill perthnasol o ran gwella llwybrau a mynediad cyhoeddus i diroedd a dyfroedd yn y sir gyda’r nod o hyrwyddo gweithgareddau awyr-agored.
Yn unol â rheoliadau cenedlaethol, mae Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd yn ail-apwyntio aelodau o’r Fforwm Mynediad Lleol, ar gyfer yr ardaloedd hynny o Arfon a Dwyfor nad ydynt o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r Fforwm Mynediad Lleol yn cyfarfod yn rheolaidd ac mae’n bwysig fod aelodau yn mynychu pob cyfarfod - mae disgwyl i’r fforwm gynnwys rhwng 12 ac 20 aelod.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Uwch Arweinydd Portffolio Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Mae’r Fforwm Mynediad lleol yn chwarae rhan bwysig iawn wrth weithio gyda’r Cyngor a’i bartneriaid i wella mynediad i gefn gwlad trwy’r sir. Mae aelodau’r Fforwm yn gweithio’n agos gyda’r tîm Hawliau Tramwy ac eraill i wella mynediad cefn gwlad a byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb dod yn aelod i gyflwyno cais erbyn 24 Chwefror.”
I drafod dod yn aelod o’r Fforwm Mynediad Lleol neu am ffurflen gais, cysylltwch â Rheolwr Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd, David Coleman ar 01341 424473 neu e-bostio: llwybrau@gwynedd.gov.uk - y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydi dydd Gwener, 24 Chwefror 2012.