Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Iechyd a Gofal Cymdeithasol > Gwasanaethau Cymdeithasol > Oedolion > Cymorth ariannol a chyfreithiol
 

Gwasanaeth apwyntai

Beth yw apwyntai?
Rhywun rydych yn rhoi hawl gyfreithiol iddo weithredu ar eich rhan pan nad ydych yn gallu rheoli eich materion eich hun. Mae hyn yn cynnwys edrych ar ôl materion ariannol.

Bydd apwyntai'n trefnu i dderbyn eich budd-daliadau a thalu eich biliau. Byddant yn agor cyfrif banc yn eich enw ac yn sicrhau eich bod yn cael y budd-daliadau cywir, a byddant yn talu eich biliau byw gan ddefnyddio'ch arian.


Sut mae penodi apwyntai?
Gall perthynas, ffrind neu gynrychiolydd wneud cais yn uniongyrchol i'r Adran Gwaith a Phensiynau.


All y Cyngor fod yn apwyntai i mi?

Gall y Cyngor fod yn apwyntai i chi:

  • os ydych yn derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol fel gofal cartref, gofal dydd neu weithiwr cefnogol
  • os ydych yn byw mewn cartref preswyl neu nyrsio ac yn derbyn budd-daliadau.


Sut mae trefnu hyn?
Os ydych am benodi'r Cyngor yn apwyntai, siaradwch â'r person sy'n darparu neu'n trefnu eich gofal a byddant yn eich helpu i drefnu.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 30/03/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]