Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Addysg a Dysgu > Ysgolion > Llywodraethwyr
 

Rôl y Llywodraethwr

Mae llywodraethwr yn:

  • weithiwr gwirfoddol sydd â diddordeb mewn addysgu neu ddysgu. Mae'n cynrychioli aelodau yn y gymuned a staff yr ysgol. 
  • rhan o dîm sy'n derbyn cyfrifoldeb am bopeth mae ysgol yn ei gyflawni.
  • darparu cefnogaeth i'r ysgol, ond mae hefyd yn rhoi barn feirniadol ar safonau a materion rheoli.

Mae saith math o lywodraethwyr yn ysgolion Gwynedd:

Rhiant-lywodraethwr - yn cael ei benodi trwy enwebiad ffurfiol sy'n cael ei gynnig i holl rieni'r ysgol pan fo lle gwag yn codi.

Llywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol - yn cael ei benodi gan y Cyfarwyddwr Addysg

Llywodraethwyr Cymunedol - yn cael ei enwebu gan y Corff Llywodraethol
 
Llywodraethwyr Cymunedol ychwanegol - yn cael ei enwebu gan y Cyngor Cymuned/Tref

Llywodraethwyr Sylfaenol - yn cael ei benodi gan awdurdod heblaw'r Awdurdod Addysg Lleol, ee, Ysgolion Eglwys

Athro-lywodraethwr - yn cael ei benodi trwy drafodaeth ac etholiad. Mae'n cael ei gynnig i holl athrawon yr ysgol.

Staff-lywodraethwr - yn cael ei benodi trwy drafodaeth ac etholiad. Mae'n cael ei gynnig i holl staff ategol yr ysgol.

Hyfforddi Llywodraethwyr Newydd
Mae rhaglen Anwytho Llywodraethwyr Newydd yn bodoli yng Ngwynedd. Mae'n cynnwys cyrsiau hyfforddi megis:

  • rôl a chyfrifoldebau cyffredinol llywodraethwyr
  • cyfarfodydd llywodraethu
  • rheoli cyllid
  • materion staffio
  • y cwricwlwm
  • ymweliad ysgol
  • cynhaliaeth Gwynedd i lywodraethwyr

Dylai llywodraethwyr newydd gael eu hannog i fynychu un neu ragor o'r cyrsiau hyfforddi.

Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i ddod yn llywodraethwr cysylltwch â'r Uned Cefnogi Llywodraethwyr:
Cyfeiriad: Uned Gefnogi Llywodraethwyr, Swyddfa Addysg, Cyngor Gwynedd, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
E-bost: llywodraethwyr@gwynedd.gov.uk neu melerimairhumphreys@gwynedd.gov.uk
Ffôn: (01286) 679 303



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 06/09/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]