Os nad ydych yn siŵr a ydych angen caniatâd cynllunio (neu fath arall o ganiatâd) edrychwch wefan y Porth Cynllunio:
Arweiniad yn unig sydd ar wefan y Porth Cynllunio. Rydym yn eich cynghori'r gryf i gysylltu â ni cyn cychwyn gwaith ar unrhyw ddatblygiad.
Gall gwneud gwaith lle mae caniatâd yn angenrheidiol heb i chi gael y caniatâd hwnnw gan Gyngor Gwynedd arwain at gymryd camau gorfodaeth ffurfiol yn eich erbyn.
Am ragor o wybodaeth ynghylch hyn, ewch i'r dudalen Cwynion - torri rheolau cynllunio.
Cysylltu â ni
Cyn cychwyn ar unrhyw waith, rydym yn awgrymu'n gryf eich bod yn cysylltu â ni o flaen llaw.
- Ar-lein: Ydw i angen caniatâd cynllunio?
Y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif. Bydd eich cyfrif yn eich galluogi i anfon ymholiad i ni, cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'ch ymholiad a'n galluogi ni i anfon ymateb i chi. - Ffôn: 01766 771000
Mae rhai'n dewis cysylltu â ni'n uniongyrchol tra mae eraill yn dewis mynd drwy asiant / pensaer. Os byddwch yn dewis cysylltu â ni drwy asiant / pensaer, byddwn yn gohebu gyda’ch asiant / pensaer yn hytrach na gyda chi.
COFIWCH! Os yw'r datblygiad o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, byddwch angen cysylltu gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri nid gyda Chyngor Gwynedd. I weld a yw'r datblygiad yn y Parc Cenedlaethol, edrychwch ar y map - Ardal Parc Cenedlaethol Eryri.
Ymlaen i'r cam nesaf yn y broses gynllunio
Yn ôl i'r rhestr lawn o'r camau yn y broses gynllunio