Mae Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd yn rhan o gynllun Dechrau Da a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Gwefan Dechrau Da - Mae pob baban yn derbyn pecyn Dechrau Da ar ei asesiad iechyd rhwng 8 - 12 mis oed gan ei ymwelydd iechyd a phecyn Blynyddoedd Cynnar ar ei asesiad iechyd 24 mis - am ddim.
Bydd gwahoddiad yn y pecynnau i chi ymaelodi eich baban â'r llyfrgell. Cofiwch nad ydym yn codi dirwyon ar lyfrau plant na llyfrau sy'n cael eu torri ar ddamwain gan fabanod. Byddwch yn derbyn llyfr arall am ddim gan Wasanaeth Llyfrgell Gwynedd wrth ymaelodi eich baban!
Os nad ydych wedi derbyn eich pecyn Dechrau Da na'ch pecyn Blynyddoedd Cynnar - holwch eich ymwelydd iechyd.
Cofiwch hefyd y gallwch ymuno â'r Clwb Cropian yn Llyfrgelloedd Gwynedd gan gasglu tystysgrif ac arth i'ch baban wrth fenthyg llyfrau. Holwch eich llyfrgell leol am fwy o fanylion.