Mae arddangosfa’r cynlluniau prosiect Strategaeth Cyhoeddus Bangor - a fydd yn cael ei gynnal yn Uned 2 Canolfan Deiniol ym Mangor - yn seiliedig ar weithdai a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn gyda nifer o grwpiau lleol allweddol, yn cynnwys manwerthwyr, grwpiau mynediad ac ysgolion y ddinas.
Bydd yr argymhellion cychwynnol sydd wedi eu seilio ar ddarganfyddiadau’r gweithdai hyn i’w gweld mewn arddangosfa er mwyn rhoi cyfle i drigolion, busnesau ac unrhyw un arall sydd â diddordeb gael gweld a dweud eu dweud am yr hyn y maent hwy am ei weld yn digwydd i wella eu dinas.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards:
“Busnesau Gwynedd yw calon yr economi leol. Dyna pam fod Cyngor Gwynedd yn gwneud popeth y gallwn i helpu i hyrwyddo ein cwmnïau lleol a siopau’r stryd fawr.
“Bydd y prosiect Strategaeth Cyhoeddus Bangor yn ein galluogi i wneud yn sicr fod canol y ddinas yn gryfach nac erioed gyda gwell cysylltiadau o ledled dinas Bangor yn arwain at Stryd Fawr brysur.
“Ein nod yw cyflwyno gwelliannau sy’n seiliedig ar yr hyn y mae pobl a busnesau lleol am ei weld yn digwydd – dyna pam ein bod am weld pobl yn dod draw i gyflwyno eu sylwadau yn yr arddangosfa.”
Bydd y gefnogaeth ariannol gwerth oddeutu £3.5 miliwn y mae Cyngor Gwynedd wedi ei sicrhau yn galluogi cyflwyno nifer o welliannau amgylcheddol ynghyd a mesurau rheoli traffig a fydd yn cyfrannu tuag at fywiogrwydd canol y ddinas.
Dywedodd y Cynghorydd Dewi Lewis, sy’n arwain ar yr Economi a Chymuned ar Gyngor Gwynedd:
“Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y Cynulliad er mwyn Datblygu prosiect pwysig Strategaeth Cyhoeddus Bangor. Ein blaenoriaeth rwan yw parhau i weithio mewn partneriaeth agos gyda hwy a’r gymuned fusnes leol er mwyn sicrhau fod busnesau lleol yn manteisio i’r eithaf ar y buddsoddiad hwn.
“Mae yna lawer o waith caled o’n blaenau er mwyn gwireddu’r prosiect hwn, ond trwy gydweithio gallwn gyflwyno gwelliannau a fydd yn adfywio canol dinas Bangor.”
Bydd y brasluniau a fydd yn cael eu harddangos yn dangos gwelliannau arfaethedig i ardaloedd allweddol ar hyd y Stryd Fawr ac ardal Tan y Fynwent ym Mangor.
Ychwanegodd Dafydd Wyn Williams, Prif Beiriannydd Trafnidiaeth a Gofal Stryd Cyngor Gwynedd:
“Rydan ni’n gwybod fod gan bobl deimladau cryf am sut y maent am wella canol y ddinas. Dyna pam y byddem yn awyddus i gymaint â phosib o bobl i alw draw, edrych ar y cynlluniau arfaethedig a gadael i ni wybod beth yw eich barn. Bydd yr awgrymiadau a fydd yn cael eu cyflwyno yn ein helpu i gyflwyno gwelliannau a fydd yn gwneud Bangor yn ddinas lwyddiannus, atyniadol a hwyliog i ymweld â hi.”
Bydd yr arddangosfa yn cael ei gynnal yn Uned 2 yng Nghanolfan Deiniol, Bangor (yr hen siop Superdrug) o ddydd Mercher, 15 Gorffennaf hyd ddydd Sadwrn, 18 Gorffennaf. Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 11am a 4pm. Bydd y cynlluniau hefyd i’w gweld yng Nghadeirlan Bangor o ddydd Llun, 20 Gorffennaf hyd ddydd Gwener, 24 Gorffennaf. Bydd ffurflenni ar gael i gofnodi sylwadau.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chydlynydd Prosiect Strategaeth Cyhoeddus Bangor Cyngor Gwynedd ar 01286 679448, neu e-bost: PatJones@gwynedd.gov.uk
Mae prosiect Strategaeth Cyhoeddus Bangor wedi ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglen Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd a weinyddir gan Lywodraeth y Cynulliad.