Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Busnes a'r Economi > Partneriaeth Economaidd Gwynedd
 

Grant Llwyddo yng Ngwynedd

Oes gennych chi syniad am fusnes neu fenter newydd? 
Drwy gynllun cyffrous Llwyddo yng Ngwynedd mae'n bosib y gallwch dderbyn cymorth er mwyn troi eich syniad yn realiti. Mae'r cynllun newydd hwn yn adeiladu ar lwyddiant y cynllun blaenorol, Llwyddo'n Lleol. 

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cefnogaeth, bydd rhaid i chi fod yn byw yng Ngwynedd wledig (y Sir i gyd ag eithrio Dinas Bangor), ac mae blaenoriaeth yn cael ei roi i gefnogi: 

  • teuluoedd fferm
  • pobl ifanc rhwng 20 a 30 oed
  • plant o dan 10 oed (drwy ysgolion neu glybiau)
  • grwpiau cymunedol
  • unigolion tan-gyflogedig (e.e. unigolion diwaith, pobl anabl).


Mae Llwyddo yng Ngwynedd yn cael ei weithredu drwy gyfrwng 4 cynllun: 

  1. Mentro: Cyfle i sbarduno mentergarwch ymhlith grwpiau neu unigolion sydd erioed wedi mentro o'r blaen.  Mae'r gefnogaeth yn cynnwys:
    • bwrsariaeth o hyd at £3,000 er mwyn treialu neu gychwyn menter newydd  
    • sesiynau i sbarduno syniadau am fentrau newydd.
  2. Galluogi: Cynllun yn cynnig cymorth ymarferol i fusnesau newydd, busnesau bach sydd eisoes yn bodoli ond am fentro i faes newydd, neu grwpiau cymunedol sydd wedi'u lleoli ar fferm. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys:
    • cymorth ymarferol i ddatblygu sgiliau a mentora
    • cymorth ariannol hyd at £50,000 (hyd at 50% o gyfanswm gwerth y prosiect)
  3. Arloesi: Cynllun yn canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau a phrosesau arloesol o fewn meysydd amaeth, arallgyfeirio o amaeth, a'r amgylchedd drwy ddatblygu mentergarwch ymhlith teuluoedd sy'n ffermio a busnesau gwledig. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys:
    • cefnogaeth i ddatblygu syniadau a'u troi'n fentrau masnachol
    • grantiau o £11,250 (hyd at 100%, 75% neu 50% o gyfanswm gwerth y prosiect) ar gyfer:
      - ymchwil i'r farchnad ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau newydd
      - comisynu gwaith rheoli datblygu technegol a chynllunio busnes manwl.
  4. Cynnig Gwynedd: Mae'r dulliau uchod o gefnogi mentrau, galluogi busnes presennol i arallgyfeirio, a datblygu syniadau arloesol yn cael ei ategu gan y prosiect Cynnig Gwynedd. Mae'r cynllun hwn yn canolbwyntio ar gefnogi a hyrwyddo pwynt gwerthu unigryw Gwynedd - sef ansawdd yr amgylchedd a'r cynnyrch lleol.
    Rhoddir cefnogaeth i gynhyrchwyr lleol a chadwyni cyflenwi, a bydd cyfle i gymunedau sydd wedi'u dethol farchnata eu hasedau naturiol a diwylliannol drwy 12 o bwyntiau gwybodaeth technegol, a bydd 'theatr y gwyllt' yn cael eu datblygu o fewn tair ardal.

Am ragor o wybodaeth, neu i drafod eich syniad am fusnes neu fenter newydd, cysylltwch â tim Llwyddo yng Ngwynedd ar LlwyddoyngNgwynedd@gwynedd.gov.uk neu 01286 679774 / 01286 679628


Mae'r cynllun yn cael ei ariannu trwy'r Gynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013 Llywodraeth Cynulliad Cymru.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 02/07/2010
 

Cysylltau Allanol

 
*Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Gweler Hefyd

Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2009
Sgipio i [ brig y dudalen ]