Os ydych yn ymwybodol o droseddau amgylcheddol yng Ngwynedd, rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod:
Tipio anghyfreithlon
Rhowch wybod i ni am achosion o dipio anghyfreithlon, e.e. bagiau duon wedi’u taflu y tu ôl i’ch tŷ, neu ddodrefn wedi eu gadael ar ochr y ffordd.
Glanhau strydoedd / gwagio biniau stryd
Mae gennym raglen reolaidd ar gyfer glanhau strydoedd a gwagio biniau stryd yng Ngwynedd. Os ydych yn teimlo fod ysbwriel / gwm cnoi ar y stryd neu finiau wedi gorlenwi yn achosi problem sylweddol, dywedwch wrthym.
Baw cŵn
Rhowch wybod i ni am unrhyw broblem yn ymwneud â baw cŵn yng Ngwynedd.
Mae gwybodaeth am ddirwyon am beidio â glanhau ar ôl ci ar gael drwy fynd i’r dudalen baw cŵn.
Torri gwair / chwistrellu chwyn
Mae gennym raglen reolaidd ar gyfer torri gwair a chwistrellu chwyn mewn llefydd cyhoeddus yng Ngwynedd. Os ydych yn teimlo fod gwair neu chwyn wedi gordyfu yn achosi problem sylweddol, cysylltwch â ni ar 01766 711000.
Anifeiliaid marw
Os dewch ar draws anifail marw mewn man cyhoeddus yng Ngwynedd, cysylltwch â ni ar 01766 771000 er mwyn i ni drefnu i gasglu’r corff.
Graffiti a phosteri anghyfreithlon
Rhowch wybod i ni am achosion o graffiti neu bosteri wedi eu gosod anghyfreithlon yn y sir, e.e. posteri wedi eu gosod ar arwyddion ffyrdd:
Nodwyddau hypodermig
Os ydych yn dod ar draws nodwydd(au) hypodermig wedi ei gadael mewn man cyhoeddus, cysylltwch â ni ar unwaith drwy ffonio 01766 771000. Peidiwch â chyffwrdd y nodwydd ar unrhyw gyfrif.