Llyfrgell deithiol
Mae'r llyfrgell deithiol yn ymweld â thua 140 o gymunedau Gwynedd yn rheolaidd, ac yn cario amrywiaeth o eitemau, gan gynnwys:
- llyfrau ar gyfer plant ac oedolion
- llyfrau print bras
- llyfrau llafar ar dâp neu CD
- DVD's ar gael i'w llogi am ffi rhesymol
Er mwyn gweld pa bryd y bydd y llyfrgell deithiol yn ymweld â'ch cymuned chi, cliciwch ar y ddolen isod:
Amserlen Llyfrgell Deithiol
Llyfrgell i'r cartref
Rydym yn cynnig gwasanaeth llyfrgell i'r cartref, mewn achosion ble mae person yn:
- dioddef o anawsterau symudedd
- methu cario eitemau
- dioddef o salwch tymor hir
- byw yn bell o fan gwasanaeth llyfrgell (statig neu deithiol)
- ofalwr llawn-amser.
Gallwch wneud cais ar-lein am y gwasanaeth llyfrgell i'r cartref
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar (01286) 679465 / (01341) 422771 neu drwy anfon e-bost at llyfrgell@gwynedd.gov.uk