Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2008 > Medi
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Medi |
 

Darlun unigryw o Lloyd George i’w weld yn Llanystumdwy

Lloyd George
Y darlun o Lloyd George gan Vincent Evans

Mae darlun arbennig o’r cyn Brif Weinidog David Lloyd George sydd brin wedi ei weld gan y cyhoedd ers ei greu ar ganol y 1930au i’w weld yn Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy.

Nid yw’r darlun o Lloyd George wedi ei arddangos fawr ddim ers i’r arlunydd o Gymro, Vincent Evans ei ddarlunio yn 1936, naw mlynedd cyn marw’r gwleidydd.

Dywedodd Nest Thomas, Swyddog Amgueddfeydd ac Orielau Cyngor Gwynedd:

“Rydym yn falch iawn o allu arddangos y darlun arbennig yma o Lloyd George yn yr Amgueddfa sy’n dwyn ei enw.

"Mae’n fraint gael benthyg y darlun fel y gall trigolion lleol lle magwyd y cyn-Brif Weinidog ac ymwelwyr o du hwnt gael y cyfle i fwynhau’r darlun arbennig yma. Mae’n ddarlun cyfoes a gonest o Lloyd George sydd brin wedi ei weld gan y cyhoedd ers ei beintio yn 1936.

“Rwy’n gobeithio y bydd y darlun unigryw yma yn annog mwy o ymwelwyr i ddod draw i Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy lle mae amrywiaeth eang o greiriau difyr a gwybodaeth am un o wladweinwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif.”

Mae’r darlun yma o Lloyd George yn dyddio’n ôl i 1936 ac mae ar fenthyg gan D Lloyd George, Abertawe.

Darlun gan Vincent Evans ydyw, gŵr a aned yn Ystalyfera yng Nghwm Tawe. Aeth i weithio i’r pwll glo yn 13 oed, a bu’n löwr am ddeng mlynedd cyn ennill ysgoloriaeth i Goleg Celf Abertawe.

Ynghyd ag Evan Walters ac Archie Rhys Griffiths, roedd yn un o fudiad o arlunwyr o dde Cymru a aeth ati i bortreadu gyda chywirdeb eu cymunedau diwydiannol.

Mae Amgueddfa Lloyd George yn drysorfa o wybodaeth a chreiriau unigryw sy’n portreadu bywyd ac amserau David Lloyd George, gan gynnwys Cornel Ddarganfod a Stori’r Plant lle cewch gyfle i wisgo gwisg Fictorianaidd, chwarae a theganau hen ffasiwn, ysgrifennu ar lechen a darganfod sut brofiad oedd tyfu i fyny yng nghyfnod plentyndod Lloyd George.

Mae’r Amgueddfa ar agor bob dydd trwy fis Medi (10.30am-5pm), ac o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod mis Hydref (11am-4pm)

Am ragor o wybodaeth am Amgueddfa Lloyd George, cysylltwch â Nest Thomas, Swyddog Amgueddfeydd ac Orielau Cyngor Gwynedd ar 01286 679098.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 29/09/2008
 

Gweler Hefyd

Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]