Mae Uned Cynllunio Argyfwng Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am gydgordio ymateb Gwynedd i unrhyw argyfwng sy'n effeithio ar y sir. Mae'r Cyngor yn gwneud hyn drwy baratoi cynlluniau sy'n cwrdd â'r gofynion cenedlaethol, hyfforddi staff ar gyfer delio gydag argyfyngau a pharatoi adnoddau a staff i gynorthwyo’r gwasanaethu brys yn ystod argyfwng.
Sut mae’r Cyngor yn cynllunio ac yn ymateb i argyfyngau?
O dan ofynion y Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004, prif ddyletswyddau'r Cyngor yw:
- asesu risg
- cynllunio ar gyfer argyfwng
- cynnal ymwybyddiaeth y cyhoedd a sefydlu trefniadau i rybuddio, hysbysu a chynghori’r cyhoedd
- cydweithredu gyda'r gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill
- rhannu gwybodaeth gyda gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill
- rheoli Parhad Busnes sef sicrhau bod y Cyngor yn parhau i allu darparu gwasanaethau angenrheidiol petai digwyddiad yn amharu ar fusnes y Cyngor
- darparu cyngor a chymorth ar barhad busnes i’r sector fasnachol a’r sefydliadau gwirfoddol
Beth yw rôl y Cyngor?
Mae'r Cyngor yn rhoi cymorth ymarferol i'r gwasanaethau brys. Fel rheol, bydd yn gofalu am les aelodau'r cyhoedd a effeithiwyd gan yr argyfwng, ac yn darparu cymorth technegol ac adnoddau ar safle'r argyfwng.
Bydd y Cyngor hefyd yn gweithio gyda'r asiantaethau gwirfoddol fydd yn ymateb i’r argyfwng.
Yn ystod argyfwng mawr, dylai’r Cyngor allu:
- darparu llety dros dro, gan gynnwys cyfleusterau bwydo, gorffwys a gwasanaethau lles
- darparu gofynion cymdeithasol a lles ar gyfer pobl sy’n dioddef straen neu sioc
- cynorthwyo gyda’r gwaith o ddarparu mannau dal cyrff a marwdai dros dro mewn cydweithrediad â Heddlu Gogledd Cymru a’r Crwner
- trefnu i ailgartrefu dros dro neu'n barhaol
- ymdrin â, a darparu cyngor am beryglon iechyd a materion amgylcheddol
- cynorthwyo gyda'r gwaith o ymateb i faterion iechyd cyhoeddus
- sicrhau diogelwch traffyrdd a materion yn ymwneud â thraffig a pheirianneg strwythurol
- darparu unrhyw gyngor neu wasanaethau sydd fel arfer yn gyfrifoldeb dydd i ddydd y Cyngor
Y Cyngor sy’n gyfrifol am gydgordio adferiad tymor hir yr ardal sydd wedi'i heffeithio drwy ail adeiladu'r gymuned a chynorthwyo’r trigolion sydd wedi eu heffeithio.
Bydd y Cyngor hefyd yn ceisio cynnal gwasanaethau hanfodol yn ystod argyfwng, ac yn ymdrechu i adfer cymunedau cyn gynted ag y bo modd.
Cofrestr Risg Gymunedol Gogledd Cymru
Mae Fforwm Cydnerthedd Gogledd Cymru wedi cynnal asesiad risg i ystyried tebygolrwydd ac effaith digwyddiadau mawr a allai daro’r ardal.
Mae dau gategori o ddigwyddiadau:
- peryglon – digwyddiadau difalais fel damweiniau cludiant, llifogydd, a damweiniau diwydiannol
- bygythiadau – digwyddiadau a gynlluniwyd, fel ymosodiadau â ffrwydron, bygythiadau cemegol a niwclear , ac ymosodiadau electronig.
Mae’r Gofrestr Risg yn cynnwys crynodeb o’r risgiau rydym yn eu hasesu yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd. Efallai na fydd y pethau hyn yn digwydd, neu y byddant yn digwydd ar raddfa lai, ond ystyriwyd yr holl bosibiliadau wrth gynnal yr asesiad. Am resymau diogelwch, ni fedrwn roi gwybodaeth fanwl.
Am ragor o wybodaeth yn ystod oriau swyddfa, Llun - Gwener 09:00 - 17:00, cysylltwch ag Uned Cynllunio Argyfwng Cyngor Gwynedd:
Rhif ffôn: 01286 679 382 neu 01286 679 383
E-bost: argyfwng@gwynedd.gov.uk
Cyfeiriad: Uned Cynllunio Argyfwng
Swyddfa'r Cyngor
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
Mewn argyfwng y tu allan i oriau swyddfa: ffoniwch 01766 771000