Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Tai
 

Tai cymdeithasol

Tai

Mae un pwynt cyswllt ar gyfer pob ymholiad a chais dewisiadau tai yng Ngwynedd, sef y Tîm Opsiynau Tai:

01286 685100
opsiynautai@gwynedd.gov.uk

Mwy o fanylion am y drefn newydd: Polisi Gosod Tai Cyffredin / datganiad i’r wasg

Er mwyn cael eich ystyried am dŷ cymdeithasol gan Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Tai Eryri, Tai Gogledd Cymru neu Tai Clwyd, rhaid i chi fod ar Gofrestr Dai Gyffredin Gwynedd.

 

Pwy sy’n cael bod ar y gofrestr?

  • pobl ddigartref
  • pobl y mae gan awdurdod tai ddyletswydd cyfreithiol tuag atynt
  • pobl sy’n byw mewn tai afiach / gorlawn neu anfoddhaol
  • pobl sydd angen symud er mwyn eu iechyd / lles
  • pobl sydd angen symud i rywle penodol er mwyn osgoi caledi (iddyn nhw neu rywun arall).

Nid yw bod ar y gofrestr yn gwarantu tŷ i neb.

 

Sut ydw i’n cael fy rhoi ar y gofrestr?

Cysylltwch â’r Tîm Opsiynau Tai:

01286 685100
opsiynautai@gwynedd.gov.uk 


Beth fydd yn digwydd wedyn?

Byddwn yn trafod eich anghenion er mwyn penderfynu beth yw’r peth gorau i’w wneud.

Os nad yw’n addas i chi fynd ar y gofrestr, byddwn yn trafod beth arall sy’n bosib.

Os ydych yn cael mynd ar y gofrestr, byddwch yn cael eich blaenoriaethu am dŷ gan ddefnyddio system pwyntiau.

Mwy o fanylion am y system pwyntiau: Crynodeb o’r Polisi Gosod Tai Cyffredin

Mae mwy o wybodaeth am dai cymdeithasol yng Ngwynedd ar wefan Tai Gwynedd.

 

Beth os dwi'n byw mewn tŷ cymdeithasol yn barod?

Gallwch gael cymorth a chyngor gan eich cymdeithas tai:

Cartrefi Cymunedol Gwynedd

Tai Eryri

Tai Clwyd

Tai Gogledd Cymru



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 17/01/2013
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]