Dyma gyfle gwych i brofi gwlad agored a chyfoethog Penrhyn Llŷn.
Wrth ddilyn Llwybr Arfordir Llŷn cewch werthfawrogi ysblander tirwedd amrywiol yr ardal, mae yna gilfachau bychain ac eangderau tywod, clogwyni geirwon, moroedd oriog, porthladdoedd bach a rhostiroedd gwyllt.
Byddwch yn cerdded yn ôl troed y pererinion cynnar a phrofi bro sydd â diwylliant yn ddwfn yn y pridd a chewch gyfle i brofi gwlad yn gyforiog o fywyd gwyllt.
Yn ei gyfanrwydd mae Llwybr Arfordir Llyn yn 146 km neu 84 milltir o hyd yn ymestyn o dref Gaernarfon ar hyd arfordir gogledd Llyn i Uwchmynydd gan yna ddilyn yr arfordir deheuol i Borthmadog.
Mae mwyafrif o’r daith yn dilyn llwybrau cyhoeddus, gyda rhannau hefyd ar ffyrdd tawel, llwybrau drwy ganiatâd y perchnogion a thraethau. Er bod mwyafrif y daith yn arfordirol, mewn mannau mae’n gwyro i’r mewndir ag i dir uchel sy’n eich galluogi i fwynhau golygfeydd godidog ar draws y Penrhyn.
Er bod y daith wedi ei sefydlu, parhau mae’r gwaith o'i datblygu a’i gwella, mae’r atodiadau canlynol yn dangos y daith fel ag y mae hi yn ystod Haf 2007.