Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Addysg a Dysgu > Amgueddfeydd > Amgueddfa Lloyd George
Prif Gategori : Addysg a Dysgu
Rhiant : Amgueddfeydd
 

Amgueddfa Lloyd George

Tu mewn i Highgate
Tu mewn i Highgate

Mae'r eitemau yn Amgueddfa Lloyd George a Highgate, cartref ei blentyndod, yn ein helpu i ddeall bywyd ac amseroedd y cyn-Brif Weinidog o 1863 - 1945. Roedd yn wladweinydd mawr - cyflwynodd y pensiwn i'r henoed; roedd yn Brif Weinidog adeg y Rhyfel Byd Cyntaf; rhoddodd y bleidlais i ferched - ond methodd â datrys y problemau yn Iwerddon.


Dod o hyd i ni / Cysylltu

Amgueddfa Lloyd George
Llanystumdwy
Cricieth
Gwynedd
LL52 0SH

Lleoliad ar y map

01766 522071

AmgueddfaLloydGeorge@gwynedd.gov.uk

Oriau agor

  

Prisiau mynediad

Gallwch logi Theatr Lloyd George ar gyfer hyd at 50 o bobl gyda lle i gadeiriau olwyn - cysylltwch â ni.

Beth sydd i'w weld yma?

  • arddangosfa unigryw o greiriau - casgedi a sgroliau a gyflwynwyd iddo fel rhyddfreiniau, medalau, paentiadau, lluniau, dogfennau fel Cytundeb Versailles, 'coron Lloyd George', gwisgoedd ac eitemau personol
  • ffilm am Lloyd George a phen anhygoel sy'n siarad
  • ystafell ddosbarth Fictoraidd
  • llyfrgell a phwynt mynediad i'r we
  • siop.

Mae Highgate wedi'i ddodrefnu fel yr oedd pan oedd Lloyd George yn byw yno'n blentyn rhwng 1864 a 1880. Mae desgiau gwreiddiol Lloyd George a'i frawd i'w gweld yno, ac ailgrewyd gweithdy'r crydd. Gallwch fwynhau'r ardd bwthyn Fictoraidd.

Cyfeillion yr Amgueddfa

Ymunwch â'r Cyfeillion er mwyn helpu i gadw'r cof am Lloyd George yn fyw. Rydym yn:

  • cefnogi a chynorthwyo datblygiad yr Amgueddfa a'i defnydd addysgiadol, a chefnogi datblygiadau newydd
  • trefnu a hyrwyddo darlithoedd a digwyddiadau
  • codi arian at brynu eitemau addas i'w harddangos a hybu ymchwil

Cadeirydd - Emrys Williams
Llywydd - Philip George
Trysorydd - Elizabeth George
Ysgrifennydd - T Elwyn Griffiths

Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0SH
01766 522071
Rhif elusen: 1062771



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 05/02/2013
 

Gweler Hefyd

Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]