Mae'r eitemau yn Amgueddfa Lloyd George a Highgate, cartref ei blentyndod, yn ein helpu i ddeall bywyd ac amseroedd y cyn-Brif Weinidog o 1863 - 1945. Roedd yn wladweinydd mawr - cyflwynodd y pensiwn i'r henoed; roedd yn Brif Weinidog adeg y Rhyfel Byd Cyntaf; rhoddodd y bleidlais i ferched - ond methodd â datrys y problemau yn Iwerddon.
Dod o hyd i ni / Cysylltu
Amgueddfa Lloyd George
Llanystumdwy
Cricieth
Gwynedd
LL52 0SH
Lleoliad ar y map
01766 522071
AmgueddfaLloydGeorge@gwynedd.gov.uk
Oriau agor
Prisiau mynediad
Gallwch logi Theatr Lloyd George ar gyfer hyd at 50 o bobl gyda lle i gadeiriau olwyn - cysylltwch â ni.
Beth sydd i'w weld yma?
- arddangosfa unigryw o greiriau - casgedi a sgroliau a gyflwynwyd iddo fel rhyddfreiniau, medalau, paentiadau, lluniau, dogfennau fel Cytundeb Versailles, 'coron Lloyd George', gwisgoedd ac eitemau personol
- ffilm am Lloyd George a phen anhygoel sy'n siarad
- ystafell ddosbarth Fictoraidd
- llyfrgell a phwynt mynediad i'r we
- siop.
Mae Highgate wedi'i ddodrefnu fel yr oedd pan oedd Lloyd George yn byw yno'n blentyn rhwng 1864 a 1880. Mae desgiau gwreiddiol Lloyd George a'i frawd i'w gweld yno, ac ailgrewyd gweithdy'r crydd. Gallwch fwynhau'r ardd bwthyn Fictoraidd.
Cyfeillion yr Amgueddfa
Ymunwch â'r Cyfeillion er mwyn helpu i gadw'r cof am Lloyd George yn fyw. Rydym yn:
- cefnogi a chynorthwyo datblygiad yr Amgueddfa a'i defnydd addysgiadol, a chefnogi datblygiadau newydd
- trefnu a hyrwyddo darlithoedd a digwyddiadau
- codi arian at brynu eitemau addas i'w harddangos a hybu ymchwil
Cadeirydd - Emrys Williams
Llywydd - Philip George
Trysorydd - Elizabeth George
Ysgrifennydd - T Elwyn Griffiths
Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0SH
01766 522071
Rhif elusen: 1062771