Dewch am dro i erddi hanesyddol a chanolfan grefftau Parc Glynllifon i fwynhau diwrnod allan i’r teulu cyfan.
Y gerddi
Agored yn ddyddiol rhwng 09:00 a 17:00 drwy'r flwyddyn.
Oedolion £4; Plant £1.50; Pensiynwyr £2; Teulu am y dydd £10; Teulu am y flwyddyn £25.
Parcio am ddim
Siop ac oriel
Rydym yn gwerthu ac yn arddangos crefftau lleol o ansawdd.
Oriau agor Ebrill - Medi:
Agored 10:00 - 16:00 bob dydd.
Oriau agor Hydref - Mawrth:
Dydd Llun a dydd Mawrth - wedi cau.
Dydd Mercher tan ddydd Sul - agored 10:00 - 16:00.
Ffôn: (01286) 830222
E-bost: parcglynllifon@gwynedd.gov.uk
Lleoliad
Ffordd Clynnog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DY.
Mae’r Parc wedi ei leoli ar yr A499 rhwng Caernarfon a Phwllheli.
Map: Lleoliad Parc Glynllifon (cyswllt allanol i Multimap)
Cŵn
Mae croeso i gŵn cyn belled â’u bod yn cael eu cadw ar dennyn a’ch bod yn glanhau ar eu holau.
Mynediad
Mae Parc Glynllifon yn addas i bobl o bob oed a gallu, gyda:
- chylchdro addas i goetsus a chadeiriau olwyn (cadeiriau olwyn ar gael i’w benthyg - ffoniwch ymlaen llaw i drefnu)
- cyfleusterau ar gyfer yr anabl
Rydym yn argymell gwisgo esgidiau addas i ymweld â’r Parc.
Enillwyr gwobr y 'Faner Werdd'; 'Atyniad Ardystiedig' gan Croeso Cymru.