Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2012 > Mai
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Mai |
 

Gwynedd yn paratoi i ddathlu ymweliad y Fflam Olympaidd

Gydag ymweliad taith y fflam i Wynedd lai nag wythnos i ffwrdd, mae cymunedau ar hyd a lled y sir yn llawn bwrlwm Olympaidd ac yn barod i roi croeso cynnes i’r Fflam i Wynedd.

Bydd cymunedau ym mhob rhan o’r sir yn cael cyfle unwaith mewn oes i fod yn rhan o’r sioe fwyaf yn y byd wrth i Wynedd groesawu’r Fflam Olympaidd ar ei thaith bell o Wlad Groeg i gemau Llundain 2012.

Ar ddydd Llun, 28 Mai, bydd y fflam yn cyrraedd Dolgellau am 10.45am, gan alw heibio naw lleoliad arall yng Ngwynedd; Llan Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog, Porthmadog, Criccieth, Pwllheli, Bontnewydd, Caernarfon, Y Felinheli a Bangor.

Bydd taith y fflam o amgylch y DU yn cymryd 70 diwrnod gan deithio oddeutu 8,000 o filltiroedd. Rywbryd neu’i gilydd yn ystod y daith, bydd dros 95% o boblogaeth y DU o fewn deng milltir neu lai i’r Fflam Olympaidd.

Mae cynghorau tref a grwpiau cymunedol ledled Gwynedd wedi bod yn brysur yn cwblhau eu cynlluniau i groesawu’r fflam Olympaidd i’w hardal, ac mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod i’w gofio.

Bydd Cludwyr y Fflam a enwebwyd am eu cyfraniad ysbrydoledig i gymdeithas yn cludo’r fflam ar ei thaith drwy’r cymunedau. Mae’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn cynnwys gemau gyda naws Olympaidd i blant a phobl ifanc, pnawn Groegaidd yn dathlu hanes a tharddiad y fflam, gweithdai celf, ras 10k a llawer iawn mwy.

Dyma grynodeb o’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ar draws Gwynedd:

Dolgellau – Bydd dwy ras yn cael ei rhedeg dros y penwythnos: Ras y Gader, 26 Mai a Ras y Mawddach, 27 Mai. Mae plant ysgolion lleol wedi creu banner i ddathlu’r daith ac mae carreg yn cael ei engrafu a’i gosod yn y parc i gofio’r digwyddiad. Bydd digwyddiadau chwaraeon a cherddoriaeth ar y sgwâr yn Nolgellau’r bore hwnnw i groesawu’r fflam.

Blaenau Ffestiniog - Bydd gemau Olympaidd i ieuenctid a phrynhawn Groegaidd yng Nghaffi Lakeside Tanygrisiau yn cael ei gynnal. Bydd baner yn cael ei osod ar ochor y mynydd a thân gwyllt yn cael ei danio wrth i’r fflam gyrraedd y dref. Bydd y fflam yn teithio ar y trên i Borthmadog.

Porthmadog – Bydd siopau a Stryd Fawr Porthmadog yn cael eu haddurno a bydd ‘saliwt cannon dŵr’ yn cyfarch y fflam yn yr Harbwr.

Criccieth – Bydd ysgolion cynradd yr ardal yn croesawu’r fflam wrth iddo deithio drwy’r Criccieth gyda digwyddiad yn cael ei gynnal ar y glaswellt yng nghanol y dref.

Pwllheli – Mae Pencampwriaeth Finns y Byd yn cael ei gynnal drwy gydol yr wythnos yn y clwb hwylio. Bydd diwrnod o adloniant lleol yn cael ei drefnu ar y maes i ddathlu rôl ‘Pwllheli a’r Byd’ drwy gefnogi unigolion sydd wedi mudo i Bwllheli o wledydd tramor.

Bontnewydd – Mae’r pentref yn cael ei addurno a bydd plant ysgol ar ochor y ffordd i groesawu’r fflam. Yn ystod yr wythnos bydd gemau Olympaidd mini a chwis tafarn ar y thema Olympaidd yn cael eu cynnal.

Caernarfon - Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau ar y maes; yn cynnwys sesiynau chwaraeon i blant ysgolion cynradd lleol ac adloniant gan fandiau lleol.

Felinheli – Mae’r pentref yn cael ei addurno, gyda threftadaeth forwrol yn cael lle blaenllaw gyda chychod bychain yn cael eu cludo a’u harddangos yn y pentref.

Bangor – Ym Mangor bydd rhaglen wythnos lawn o ddigwyddiadau/gweithgareddau themâu Olympaidd yn cael eu cynnal o gwmpas y dref, yn cynnwys; arddangosfa cadw iach, gweithdai celf, plannu blodau, adloniant a ras 10K yn Nhreborth, nofio am ddim, diwrnod o hwyl i’r teulu a llawer mwy. Cysylltwch â Chyngor Tref Bangor am fwy o wybodaeth.

Am fwy o fanylion am daith y fflam Olympaidd ewch i www.gwynedd.gov.uk/llundain2012



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 22/05/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]