Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2012 > Mai
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Mai |
 

Diwrnod gwybodaeth 50+ yn Abermaw

Cynhelir diwrnod agored yn Abermaw’r wythnos nesaf fydd yn rhoi cyngor ac arweiniad ar y gwasanaethau sydd ar gael i bobl 50 oed a hŷn.

Cyngor Gwynedd a’i bartneriaid fydd yn cynnal y digwyddiad, yn Theatr y Ddraig ar Ffordd Jiwbili yn y dref rhwng 10am a 2pm ddydd Iau, 24 Mai. Does dim tâl mynediad – a bydd paned o de neu goffi a chacen hefyd ar gael yn rhad ac am ddim.

Meddai Ann Lloyd Jones, Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd:

“Yn ogystal â chyfle i gael sgwrs dros baned, bydd y diwrnod gwybodaeth yn cynnig cyfle rhagorol i drigolion ardal Abermaw i dderbyn gwybodaeth a chyngor gan amrywiol sefydliadau ar bynciau fel gofal cymdeithasol, digwyddiadau a sefydliadau cymdeithasol, materion ariannol, tai a diogelwch yn y cartref.

“Gall y Cyngor hefyd helpu pobl sy’n dymuno parhau i fyw adref yn annibynnol wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, er gwaethaf newid yn eu hiechyd neu eu sefyllfa bersonol. Fe fydd gwybodaeth ar gael ar y diwrnod ynghylch gwasanaethau ac offer a allai fod yn ddefnyddiol i bobl o gwmpas y cartref fel y gallan nhw ddal i edrych ar ôl eu hunain.”

Bydd gwybodaeth a chyngor ar gael hefyd i bobl sy’n edrych ar ôl rhywun sy’n sâl neu’n anabl.

Bydd tua 15 o asiantaethau’n rhan o’r diwrnod gwybodaeth gan gynnwys Cyngor Gwynedd, y Gwasanaeth Tân, yr Heddlu, gweithwyr iechyd, Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru ac eraill.

Bydd swyddogion Cyngor Gwynedd wrth law i roi gwybodaeth yn y sesiwn galw i mewn.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Uned Gwybodaeth a Gofal Cwsmeriaid Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd ar 01286 679 549 neu e-bostiwch: gcgc@gwynedd.gov.uk



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 15/05/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]