Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2012 > Mai
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Mai |
 

Cinio Gala i fusnesau Gwynedd

Mae prif ddigwyddiad busnes Gwynedd yn argoeli i fod yn un o uchafbwyntiau calendr busnes 2012.

Cynhelir Cinio Gala blynyddol Busnesau Gwynedd, o dan nawdd Prifysgol Bangor, yng Nghanolfan Reolaeth Prifysgol Bangor ddydd Iau, 17 Mai.

Y siaradwr gwadd eleni yw Peter Griffiths, prif weithredwr Cymdeithas Adeiladu’r Principality. Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i glywed gan y dyn sy’n gyfrifol am y seithfed cymdeithas adeiladu fwyaf ym Mhrydain, sydd â dros £6 biliwn mewn asedau.

Fel arfer, fe fydd y cinio hefyd yn gyfle i arweinwyr busnes o bob rhan o Wynedd gyfarfod pobl o gyffelyb fryd i rannu syniadau a phrofiadau.

Meddai Sioned Williams, Pennaeth Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Rydan ni’n edrych ymlaen at y digwyddiad arbennig yma sy’n gyfle i ddathlu llwyddiannau cymuned fusnes Gwynedd. Mi fyddwn i’n pwyso ar unrhyw un sydd â diddordeb mewn materion busnes a’r economi leol i ymuno â ni yn y digwyddiad pwysig yma.

“Er gwaetha’r heriau sy’n ein hwynebu ni i gyd, mi fydd 2012 yn flwyddyn gyffrous arall i’r gymuned fusnes leol.”

Ychwanegodd Tanya Keith, Cyfarwyddwr Datblygiad Busnes yn y Ganolfan Reolaeth: “Mae’r Ganolfan Reolaeth yn falch o groesawu Cinio Gala Busnes Gwynedd ac o chwarae rhan ganolog yn y digwyddiadau eraill sydd ymlaen. Mae Wythnos Busnes Gwynedd yn bwysig i’r ardal ac mae’n rhoi cyfle i ddod â busnesau at ei gilydd i rwydweithio.”

Mae tocynnau i’r Cinio Gala yn £30 yr un  neu mae disgownt ar gael i fwrdd o 10. Mae’r tocynnau’n cynnwys pryd tri chwrs ac adloniant.

Am fwy o wybodaeth, ac i archebu, e-bostiwch events@themanagementcentre.co.uk neu ffoniwch 01248 365912.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 01/05/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]