I ble yng Ngwynedd fydd y Fflam yn mynd?
Taith y Fflam ddydd Llun 28 Mai:
Map: www.london2012.com/olympictorchrelay
Bydd rhai lonydd yn cael eu cau ar gyfer taith y Fflam, ac mae'n debygol y bydd rhai gwasanaethau bws yn rhedeg yn hwyr.
Y diwrnod wedyn, 29 Mai, bydd yn mynd i bwynt uchaf ei holl daith drwy'r DU wrth ddringo'r 1,085 metr i gopa'r Wyddfa.
Dathliad ym Mangor nos Lun 28 Mai 2012
Mae Cyngor Gwynedd wrthi ar hyn o bryd yn gweithio gyda Phwyllgor Trefnu’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a thri phartner cyflwyno’r daith – Coca Cola, Lloyds TSB a Samsung – i gynnal dathliad arbennig nos Lun 28 Mai i groesawu’r Fflam Olympaidd pan fydd yn cyrraedd Bangor.
Mae Bangor yn un o bedwar lleoliad yng Nghymru a fydd yn cynnal digwyddiad gyda’r nos i groesawu’r Fflam Olympaidd – gyda digwyddiad Gwynedd yn cael ei lwyfannu ar Stad y Faenol.
Pwy fydd yn cario’r fflam?
Mae’r bobl sydd wedi cael eu cadarnhau fel Cludwyr y Fflam yn cynnwys y rheini a oedd yn llwyddiannus trwy’r prosesau enwebu cyhoeddus a gynhaliwyd gan Bwyllgor Trefnu’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain a’r partneriaid cyflwyno, Coca Cola, Lloyds TSB a Samsung. Mae’r Pwyllgor Trefnu wedi ymdrechu bod pawb o Gludwyr cymunedol y Fflam yn cael eu rhoi ar waith o fewn awr i’w cyfeiriad enwebu fel y gall teulu a ffrindiau ddod allan i’w cefnogi. Bydd pob un o Gludwyr y Fflam yn gwisgo lifrai gwyn ac aur a ddyluniwyd gan Adidas.
Gellir gweld enwau’r unigolion a fydd yn cario’r fflam drwy fynd i: www.london2012.com/olympictorchrelay
Beth fydd yn digwydd yn fy ardal i?
Ar hyn o bryd mae cynghorau tref a grwpiau cymunedol ledled Gwynedd wrthi’n brysur yn cwblhau eu cynlluniau i groesawu’r fflam Olympaidd i’w hardal, a bydd manylion pellach am y digwyddiadau hyn ar gael dros yr wythnosau nesaf.
Mae digwyddiadau i ddathlu'r Olympiad Diwylliannol hefyd wedi eu trefnu yng Ngwynedd: Digwyddiadau Celfyddydau Cymunedol Gwynedd
Ysgolion Gwynedd
Mae ysgolion ledled y Deyrnas Unedig bellach yn gallu cael at adnoddau dysgu am ddim sy’n gysylltiedig â Thaith y Fflam Olympaidd trwy Get Set (www.london2012.com/getset), sef rhaglen addysg swyddogol Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain. Mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio i helpu ysgolion a cholegau i fanteisio i’r eithaf ar Daith y Fflam trwy ddod allan i wylio ac i gefnogi eu Cludwyr lleol. Mae’r adnoddau’n cynnwys syniadau ar gyfer gwneud hetiau a baneri i groesawu’r Fflam, cyflwyniad ar sut i gael plant ysgol i ddilyn un o’r Cludwyr a ffilm yn dangos paratoadau un o’r ysgolion yn rhwydwaith Get Set ar gyfer Taith y Fflam.