Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2012 > Mawrth
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Mawrth |
 

Pont newydd i Ddolgellau

Y gwaith o osod y bont newydd
Y gwaith o osod y bont newydd

Mae’r gwaith ar brosiect Cyngor Gwynedd i osod pont droed newydd dros Afon Wnion ar ochr orllewinol Marian Mawr yn Nolgellau yn dod yn ei flaen yn dda.

Bydd y bont £450,000 newydd, yn cymryd lle hen “Bont Droed Dr Williams”, ac yn gwella ansawdd llwybr Mawddach i drigolion lleol ac ymwelwyr sy’n defnyddio’r bont i wneud eu taith ddyddiol. Bydd y cyswllt rhwng Dolgellau a safle Coleg Meirion Dwyfor yn llawer gwell unwaith fydd y gwaith wedi’u gwblhau yn ogystal.

Cafodd y bont gyntaf ei gosod cyn 1900, a’i wella yn 1969. Y broblem oedd bod y bont wreiddiol yn gul, gyda ramp serth a throadau siarp. Roedd hyn yn ei gwneud hi’n anodd i bobl sy’n cael trafferthion cerdded oherwydd cyflwr meddygol ddefnyddio’r bont, ac roedd hi’n rhy gul i ddau feic basio ei gilydd. Mae’r bont droed newydd ddwywaith lled y bont wreiddiol ac mae’r rampiau serth yn cael eu symud er mwyn caniatáu man croesi syth dros yr afon a’r cae cyfagos.

Derbyniwyd arian gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2011 gyda’r sialens o ailosod y bont newydd cyn Pasg 2012. Cynlluniwyd y bont 60 medr gan Gyngor Gwynedd a fu’n gweithio’n agos gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer yr ailosod a chael defnyddio’r tir ar yr ochr ogleddol i ymgymryd â’r gwaith sy’n eiddo i’r Parc.

Jonathan Chapman o Adran Ymgynghoriaeth Cyngor Gwynedd oedd yn gyfrifol am reoli’r prosiect:

“Rydym wedi gweithio yn agos gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar y prosiect lleol pwysig yma, a mawr yw ein diolch hefyd i Ymddiriedolwyr y Marian am gymeradwyo’r cynllun i gael gweithio ar eu tir. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi ymdrech y contractwyr, Dawnus sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau y bydd y bont ar agor erbyn y Pasg, gan gynnwys defnyddio craen 250 tunnell i godi’r bont a’i gosod yn ei lle.

“Yn wir, mae’r berthynas weithiol rhwng pawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect wedi bod yn bositif iawn o’r dechrau, gyda phawb yn anelu at weld y gwaith yn cael ei orffen ar amser. Rydym yn falch iawn bod y gwaith bron a’i gwblhau, ac yn gobeithio y bydd y bont droed yn agored i’r cyhoedd erbyn penwythnos y Pasg.”

Mae gan y bont le annwyl yng nghalonnau bobl Dolgellau. Mae gan nifer o’r trigolion atgofion melys o’r bont, a dros y blynyddoedd mae’r bont wedi cael ei hailenwi droeon, efo’r enwau i gyd yn cysylltu gydag ysgol gyfagos Ysgol breswyl Doctor Williams i ferched. Yr enw swyddogol yw ‘Pont Droed Dr Williams’, ond mae hefyd yn cael ei hadnabod fel ‘Pont Merched’, ‘Pont Werdd’, ‘Pont Brenhines’ a ‘Pont DWS’.

Yn aml mae’r atgofion yn cael eu hadrodd gan ddynion y dref sy’n cofio aros ar y bont i’r merched orffen ysgol. Mae nifer o gyn-ddisgyblion yr ysgol yn cofio adegau pan oedd yr afon yn gorlifo a’r dŵr yn gorchuddio’r bont ac felly roedd rhaid iddynt gerdded y ffordd hir i’r ysgol. Atgof arall yw diwrnod olaf y flwyddyn ysgol pan oedd y bont yn llawn o ferched yn taflu eu capanau ysgol gwyrdd i’r awyr a’u gwylio yn arnofio i lawr yr afon.

Mae disgwyl i Bont Droed newydd Dr Williams fod yn agored i’r cyhoedd erbyn dydd Gwener y Groglith.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 30/03/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]