Mae cynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Conwy a Dinbych wedi dod at ei gilydd i brynu pecynnau i gael gwared ar graffiti, ynghyd a chyflenwad o siacedi llachar Trefi Taclus er mwyn amddiffyn a'i gwneud yn hawdd adnabod gwirfoddolwyr wrth iddynt gyflawni gwaith amgylcheddol.
Dywedodd Swyddog Trefi Taclus Cyngor Gwynedd, Jonathan Neale: “Mae graffiti mewn ardal yn gallu cynyddu canfyddiadau pobl am bryderon torcyfraith ac mae’n gwneud i leoliad edrych yn hyll. Wrth weithio gyda’n partneriaid a gwirfoddolwyr lleol, rydym yn gobeithio sicrhau amgylchedd glan heb graffiti.”
Bydd y pecynnau graffiti yn darparu ffordd hwylus i grwpiau cymunedol ddelio gyda’r broblem. Maent yn effeithiol ac yn hawdd eu defnyddio, ac yn ddelfrydol ar gyfer prosiectau glanhau cymunedol neu unrhyw un sydd eisiau helpu i ddelio gyda phroblem graffiti mewn lleoliadau cyhoeddus.
Bydd y siacedi llachar hefyd ar gael i weithwyr gwirfoddol a grwpiau cymunedol er mwyn sicrhau gwell diogelwch wrth weithio ar waith codi sbwriel a thasgau amgylcheddol o’r fath. Mae meintiau addas ar gyfer gwirfoddolwyr ifanc hefyd ar gael, gyda siacedi ar gael i blant o saith i fyny.
Mae’r cynllun hwn wedi ei gefnogi gan grant Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth am Fenter Trefi Taclus Cyngor Gwynedd ewch i’r wefan www.gwynedd.gov.uk/TrefiTaclus, cysylltwch â’r Swyddog Trefi Taclus ar (01766) 771000 neu anfonwch e-bost at: trefitaclus@gwynedd.gov.uk