Gall Strategaeth Pobl Hŷn Gwynedd ddyfarnu grantiau o hyd at £1,000 i grwpiau a chymdeithasau er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl dros 55 oed.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae 16 o brosiectau ledled y sir wedi elwa, ac mae’r Cyngor yn galw ar bobl hŷn a’r rheini sy’n gyfrifol am redeg gwasanaethau i bobl dros 55 oed sy’n credu y gallen nhw fod yn gymwys, i wneud cais pan fydd y gronfa’r ailagor ym mis Mai 2012.
Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fod yn ymwneud ag o leiaf un o’r gweithgareddau canlynol:
gwella lles a chynyddu annibyniaeth pobl hŷn;
helpu pobl hŷn sy’n wynebu caledi economaidd neu sydd heb lais oherwydd newid mewn cymdeithas; neu
helpu pobl hŷn fod â rhan mewn penderfynu ynglŷn â gwasanaethau lleol neu faterion sy’n effeithio arnyn nhw.
Un fenter lwyddiannus yw’r Grŵp Cyswllt Henoed, sy’n gylch cyfeillgarwch i bobl dros 75 oed yn ardal Porthmadog, Morfa Bychan a Borth y Gest, a gyfarfu am y tro cyntaf ar 11 Mawrth. Mae’r grŵp yn cyfarfod unwaith y mis am de prynhawn Sul.
Meddai Jane Carey-Evans, un o drefnwyr y cylch cyfeillgarwch: “Ddydd Sul, fe ddaeth criw o bobl hŷn o ardal Porthmadog at ei gilydd am baned yng nghyfarfod cyntaf y grŵp Cyswllt Henoed newydd. Gyda help rhai gyrwyr gwirfoddol lleol cymwynasgar – a chroeso cynnes gan y Penny a Sue i’w cartref braf yn Borth y Gest – mi wnaeth y gwesteion, sydd i gyd dros 80 oed ac yn byw eu hunain, fwynhau te pnawn ardderchog yng nghwmni ffrindiau.
“Yn ogystal â’n helpu ni i sefydlu’r grŵp newydd ym Mhorthmadog, mae cronfa Strategaeth Pobl Hŷn Gwynedd wedi rhoi cymorth i’n holl grwpiau eraill yn y sir – mae tua 65 o bobl hŷn yn mwynhau pnawn allan am de bob mis yn rheolaidd ar bnawn Sul, pryd y bydden nhw gartref ar eu pennau eu hunain fel arall.”
Meddai’r Cynghorydd John Wyn Williams, sy’n arwain ar faterion pobl hŷn Gwynedd: “Dw i’n falch iawn fod cymorth ar gael i’r grwpiau a’r mudiadau pwysig yma, sy’n gallu sicrhau nad ydi pobl hŷn yn cael eu torri i ffwrdd oddi wrth gymdeithas.
“Mae pobl hŷn mewn perygl o gael eu hynysu a cholli eu hannibyniaeth, yn enwedig os nad ydyn nhw’n medru mynd allan o gwmpas y lle fel y bydden nhw oherwydd eu hiechyd, neu efallai nad oes ganddyn nhw deulu wrth law yn gefn iddyn nhw.
“Mi fyddwn i’n pwyso ar unrhyw un sy’n ymwneud â mudiad fel hyn, ac sy’n credu y gallai pres grant eu helpu nhw, i gysylltu â Chyngor Gwynedd am fwy o wybodaeth.”
Am fwy o wybodaeth am y grant Strategaeth Pobl Hŷn, cysylltwch â Lowri Haf Evans ar 01286 679731. Am fwy o wybodaeth am gylch cyfeillgarwch ardal Porthmadog, cysylltwch â Jane Carey-Evans ar 01766 522136.