Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2012 > Mawrth
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Mawrth |
 

Gwynedd yn dathlu Defnyddwyr Ifanc y Flwyddyn

Ffion Williams, Ffion Roberts, Lloyd Hughes a Tudur Williams yn derbyn y wobr gan John Jones, Swyddog Masnach Teg
Ffion Williams, Ffion Roberts, Lloyd Hughes a Tudur Williams yn derbyn y wobr gan John Jones, Swyddog Masnach Teg

Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol Brynrefail, Llanrug am ddod i’r brig yng Nghystadleuaeth Defnyddwyr Ifanc y Flwyddyn 2012 a drefnwyd gan Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd.

Daeth disgyblion Ysgol Brynrefail yn gyntaf yng nghystadleuaeth Gwynedd, gan ennill mewn cwis cystadleuol a oedd yn cynnwys cwestiynau amrywiol am hawliau prynwyr, arian a chyllid, diogelwch a’r amgylchedd. Yn dilyn eu llwyddiant yn y gystadleuaeth sirol, bydd yr ysgol bellach yn cynrychioli Gwynedd yn y rownd derfynol yr wythnos nesaf.

Cystadleuaeth unigryw yw Defnyddwyr Ifanc y Flwyddyn, sy’n cynnwys cannoedd o ysgolion a disgyblion ledled y wlad, sy’n brwydro er mwyn ennill y teitl Defnyddwyr Ifanc y Flwyddyn 2012.

Y pedwar cynrychiolwyr o Ysgol Brynrefail a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Gwynedd oedd: Ffion Erin Williams, Ffion Wyn Roberts, Lloyd Hughes a Tudur Williams.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 13/03/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]