Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2012 > Mawrth
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Mawrth |
 

Plymio i’r Gymraeg

Mae gan rieni, babanod a phlant yn ardaloedd Dwyfor a’r Bala reswm ychwanegol i fynychu dosbarthiadau nofio, gan fod caneuon a hwiangerddi Cymraeg bellach wedi cael eu cyflwyno yn rhan o’r gwersi fel rhan o’r cynllun ‘Plymio i’r Gymraeg’.

Drwy gyfuno gwersi nofio gyda chynllun i hyrwyddo’r Gymraeg mae Gwasanaethau Hamdden Cyngor Gwynedd yn gobeithio codi ymwybyddiaeth rhieni Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd o werth cyflwyno’r Gymraeg i blant ifanc, ac annog teuluoedd i gael hwyl wrth ddefnyddio’r Gymraeg ar yr aelwyd.

Mae pecyn o ganeuon a hwiangerddi Cymraeg wedi cael ei ddatblygu i’w ddefnyddio yn ystod gwersi nofio rhiant a phlentyn yng nghanolfan hamdden Dwyfor, Pwllheli ar foreau Sadwrn. Bydd canolfan hamdden Penllyn, Y Bala hefyd yn gwneud defnydd o’r caneuon mewn gwersi nofio ar ôl ysgol i blant dros bedair oed.

Mae’r pecyn yn cynnwys 13 o ganeuon cyfarwydd sydd wedi cael eu cynllunio yn arbennig i gyd fynd efo gweithgareddau penodol yn y pwll nofio. Mae rhai caneuon cyfarwydd wedi cael eu haddasu er mwyn eu gwneud yn addas, er enghraifft; newidiwyd geiriau’r gân ‘milgi milgi’ yn ‘pengwin, pengwin’ er mwyn codi hyder plant i neidio i mewn i’r pwll. Mae’r cynllun yn cael ei ddarparu gan staff y canolfannau hamdden ac mae staff o’r ddwy ganolfan wedi derbyn sesiwn hyfforddiant i gyflwyno’r caneuon.

Mae llyfryn bach sy’n dal dŵr ac yn cynnwys y 13 cân hefyd wedi cael ei gynhyrchu a’i ddosbarthu i’r rhieni, yn y gobaith y byddant yn eu defnyddio i ganu’r caneuon wrth roi bath i’w plant.

Dywedodd y Cynghorydd Liz Saville Roberts, sy’n arwain ar Addysg ac ar faterion hyrwyddo’r iaith Gymraeg ar Gyngor Gwynedd:

“Dyma gynllun hynod o gyffrous sy’n cyfleu neges allweddol i rieni a phlant ifanc o werth a phwysigrwydd y Gymraeg fel sgil, iaith gyfathrebu, ac iaith dysg. Mae’r llyfryn sy’n cael ei gyflwyno i’r rhieni hefyd yn pwysleisio manteision dwyieithrwydd ac yn cynnwys tudalen sy’n rhoi cyngor i rieni ynglŷn â gwahanol ffyrdd o gyflwyno’r Gymraeg i’w plant.

“Y gobaith ydi y bydd y rhieni a phlant yn canu rhai o’r caneuon yn y sesiynau wythnosol ac yna bydd canu’r caneuon hyn yn datblygu’n arferiad yn y cartref.”

Ychwanegodd Carys Ferris, sy’n gweithio i Gyngor Gwynedd fel Rheolwraig Canolfan Hamdden Dwyfor:

“Mae’n bleser gwybod mai ni ydy’r ganolfan hamdden gyntaf yng Ngwynedd i dreialu’r cynllun arbennig yma. Roedden ni’n gweld bod rhieni a phlant eisoes yn mynd i sesiynau rhiant a phlentyn yn y pwll nofio, ac y byddai hwn yn gyfle gwych i bwysleisio’r neges o bwysigrwydd dwyieithrwydd drwy ei gyfuno gyda gweithgaredd y mae teuluoedd yn ei fwynhau.”

Mae’r cynllun ‘Plymio i’r Gymraeg’ yn un o brosiectau hunaniaeth, sy’n derbyn cefnogaeth gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r Gymraeg yng Ngwynedd. Mae’r gwaith o gydlynu’r prosiect wedi cael ei wneud gan Iaith cyf, sydd hefyd yn rhedeg y cynllun TWF.

Ar hyn o bryd mae’n gynllun peilot, ond y gobaith ydi y bydd yn cael ei ddatblygu i ganolfannau hamdden eraill yn y dyfodol.

Am ragor o fanylion ynglŷn â chofrestru ar gyfer gwersi nofio cysylltwch â chanolfan hamdden Dwyfor, Pwllheli ar 01758 613437 neu ganolfan hamdden Penllyn, Y Bala ar 01678 521222. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun ‘Plymio i’r Gymraeg’ cysylltwch ag Ifan Prys, Swyddog Datblygu Iaith Gwynedd: IfanPrys@gwynedd.gov.uk



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 05/03/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]