Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2012 > Mawrth
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Mawrth |
 

Dathlu treftadaeth ar strydoedd Blaenau

Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth a’r Cynghorydd lleol Paul Thomas gyda rhai o ddisgyblion Ysgol Maenofferen
Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth a’r Cynghorydd lleol Paul Thomas gyda rhai o ddisgyblion Ysgol Maenofferen

Ar 1 Mawrth, dydd Gŵyl Dewi, bu Huw Lewis Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn ymweld â Blaenau Ffestiniog i weld sut y mae’r datblygiad canol tref yno yn dod yn ei flaen.

Mae hanes a threftadaeth leol yn ganolog i’r cynllun £4.4 miliwn, ac yn arbennig cafodd Y Gweinidog gyfle i weld rhan arbennig o’r cynllun sy’n plethu geiriau gyda threftadaeth, hanes arbennig yr ardal a’i ddyfodol newydd cyffrous.

Yn 2011 bu Cyngor Gwynedd a Blaenau Ymlaen yn gwahodd pobl leol o bob oed i gynnig geiriau, dywediadau a cherddi o bob math i gael eu gosod ar y stryd ym Mlaenau Ffestiniog fel rhan o’r cynllun i adfywio canol y dref.

Yn dilyn cyfres o weithdai gyda phlant ysgol a phobl leol, dan arweinyddiaeth beirdd ac artistiaid mwyaf adnabyddus yr ardal, mae’r holl syniadau bellach wedi eu casglu at ei gilydd ac mae rhai ohonynt eisoes i’w gweld ar lechi lleol fydd yn ymestyn bron i chwarter cilomedr ar hyd strydoedd y dref.

Dewi Prysor, bardd ac awdur egniol ac adnabyddus, oedd yn arwain y gwaith a dewiswyd y rhestr derfynol o 120 dywediad ganddo ef a’r beirdd Gwyn Thomas, Gwilym Price a Gai Toms.

Dywedodd Dewi ei fod yn hapus iawn gyda’r ymateb: “Be ddaeth yn amlwg oedd bod yma gyfoeth anhygoel o dreftadaeth ddiwylliannol.

“Roedd hi’n bleser pur i gasglu’r cannoedd o gynigion, rhai yn cofio Blaenau fel y bu ac eraill yn edrych i’r dyfodol. Mae gennym ddyfyniadau o ganeuon a llenyddiaeth yr ardal, dywediadau lleol a detholiad o’r stôr anferth o eirfa unigryw’r chwarelwyr a’r gymuned ehangach.

“Rydym hefyd wedi cynnwys cynigion gan blant pob un o ysgolion y plwy, a chyfeiriadau at sefydliadau sy’n chwarae rhan bwysig yn y gymuned o hyd.”

Ychwanegodd Gareth Roberts sy’n athro yn Ysgol Maenofferen: “Cafodd y plant fwynhad aruthrol o gymryd rhan yn y cynllun ac maent yn edrych ymlaen yn fawr at weld ffrwyth eu llafur yn cael ei osod yn y stryd fel rhan o’r cynllun.”

Dyma rai o’r geiriau a’r brawddegau sydd wedi cael eu dewis:

  • Fel wagan gynta'r rỳn - dywediad wedi tarddu o’r chwarel, yn golygu rhywun hy ac ymwthgar
  • Naddu’n rhy agos i’r drafa’l
  • Lobsgows troednoeth - lobsgóws heb gig ynddo
  • Torth goch a siwgwr coch – am dorth frown a siwgwr brown
  • Bydd hefyd gynigion doniol fel “Al Fresco, hen foi iawn!” yn cael eu gosod ger caffi’r dref. 

Mae nifer o gynigion gan blant yn yr ysgolion yn edrych ymlaen at y dyfodol ac mae’r rhain yn greadigol ac arbennig o bositif, er enghraifft; “Tref sy’n taro tant” ac “Atgofion melys, yfory gwell.”

Dywedodd Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: “Mae’n wych gweld hanes a threftadaeth yn rhan o gynllun fel hyn – mae’n gwbl unigryw i Blaenau Ffestiniog, wedi ei greu gan y trigolion ac yn cyfleu i bobl yr hyn sydd yn arbennig am y dref.

“Mae’r cynllun Geiriau Stryd yn enghraifft  o sut y dylid plethu hanes, treftadaeth a diwylliant gydag adfywio.”

Gellir canfod mwy o wybodaeth am y cynllun drwy gysylltu â blaeneauymlaen@gwynedd.gov.uk ffonio 01766 512499, ewch ar wefan y cynllun www.gwynedd.gov.uk/blaenauymlaen neu ewch i swyddfa'r Cyngor Tref ym Mlaenau ar 20 Mawrth rhwng 3pm a 6pm.

Mae’r prosiect adfywio yn cael ei ariannu gan Swyddfa Gyllid Ewropeaidd Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 02/03/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]