Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2012 > Chwefror
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Chwefror |
 

Cyfoethogi llwybr arfordir Llŷn

Ardal y llwybr newydd
Ardal y llwybr newydd

Fydd dim esgus gan drigolion Llŷn i beidio mynd allan am dro i fwynhau arfordir bendigedig Gwynedd yn dilyn derbyn caniatâd i greu llwybr cyhoeddus newydd yn ardal Llanbedrog.

Fel rhan o gynllun Llwybr Arfordir Cymru, sydd â’r bwriad o ddarparu llwybr di-dor yr holl ffordd ar hyd arfordir Cymru, mae Tîm Llwybr Arfordir Cyngor Gwynedd wedi llwyddo i gael caniatâd i greu llwybr cyhoeddus newydd yn ardal Llanbedrog.

Mae’r Cyngor wedi bod yn trafod gyda’r tirfeddianwyr ers peth amser, ac erbyn hyn wedi llwyddo i gyrraedd cytundeb i greu llwybr cyhoeddus newydd. Bydd y llwybr yn cysylltu maes parcio traeth Carreg y Defaid efo Lon Nant Iago yn Llanbedrog.

Dywedodd Rhys Roberts, Swyddog Prosiect Mynediad i’r Arfordir Cyngor Gwynedd:  “Mae’r holl waith called o drafod gyda’r tirfeddianwyr wedi dwyn ffrwyth, ac mae’r rhan yma ynghyd a gwaith diweddar sydd wedi ei wneud ym Mhlas Glyn y Weddw wedi gweld buddsoddiad mawr yn y rhwydwaith llwybrau cyhoeddus yn ardal Llanbedrog.

“Bydd y gwaith o osod giatiau mochyn ac ail-leoli ffensys terfyn yn cymryd lle dros yr wythnosau nesaf. Wedi iddo gael ei gwblhau bydd modd i drigolion ac ymwelwyr fwynhau’r llwybr cyhoeddus newydd yma.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Uwch Arweinydd Portffolio Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Braf iawn yw gweld y gwaith yn dod yn ei flaen mewn sawl ardal fel rhan o’r cynllun llwybr yr arfordir. Rydym yn gobeithio y bydd Llwybr Arfordir Cymru yn denu mwy o ymwelwyr i’n arfordir bendigedig ac yn rhoi hwb gwerthfawr i’r economi leol.

“Mae hefyd yn bwysig fod pobl leol yn gwneud y mwyaf o’r llwybr arfordirol newydd. Pa ffordd well o fwynhau golygfeydd arfordirol rhagorol Gwynedd na drwy gerdded ar hyd y llwybrau hyn?”

Mae rhaglen llwybr arfordir wedi buddsoddi bron i £700,000 yn y rhwydwaith llwybrau Gwynedd dros y flwyddyn ddiwethaf, mewn amryw o brosiectau diddorol ledled y sir, a bydd y cynllun yn parhau am flwyddyn arall.

Nod Llywodraeth Cymru yw cwblhau trywydd 850 milltir ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Caiff y rhaglen ddatblygu ei rheoli gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (trwy thema Amgylchedd ar gyfer Twf y Rhaglen Gydgyfeirio), a’r 16 o awdurdodau lleol a’r ddau barc cenedlaethol y mae’r llwybr yn pasio trwyddynt.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 28/02/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]