Mae Digwyddiadau’r Sector Twf yn rhan o brosiect £3.8 miliwn Llwyddo’n Lleol, sy’n cael ei ariannu ar y cyd gan Raglen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a’r Rhwydwaith 14-19. Ei nod yw helpu pobl ifanc 11-19 oed i ddatblygu eu sgiliau menter ac i ddysgu am y sectorau twf yng Ngwynedd.
Gwahoddwyd Cyfle, cwmni hyfforddiant ar gyfer diwydiannau’r cyfryngau creadigol yng Nghymru i weithio mewn partneriaeth gyda Llwyddo’n Lleol i drefnu gweithdai ymarferol a gafodd eu cynnal gan bobl leol sy’n gweithio yn y sector. Bu disgyblion Blwyddyn 9 o Ysgol Syr Hugh Owen, Ysgol Dyffryn Nantlle, Ysgol y Moelwyn ac Ysgol y Gader yn cymryd rhan yn y diwrnod yn Galeri Caernarfon.
Trwy gyfers o weithgareddau a chyflwyniadau ymarferol amlygwyd y cyfleoedd cyflogaeth a hunangyflogaeth mae’r diwydiannau creadigol yn ei gynnig yn lleol i’r disgyblion ar gyfer y dyfodol.
Meddai Lowri Jones, Cydlynydd Project Llwyddo’n Lleol: “Mae’r diwydiant creadigol yn helaeth. Mae animeiddio, gemau cyfrifiaduron, ffasiwn, a thudalennau gwe i gyd yn rhan o’r sector dynamig hwn sy’n symud yn gyflym.
“Cafodd y disgyblion gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol yn canolbwyntio ar ochr dechnolegol y diwydiannau creadigol - theatr a goleuo, defnyddio camera, golygu a sain. Diolch i Skillset, Cyfle a arbenigwyr o’r diwydiant a gymerodd ran yn y diwrnod ac am rannu eu gwybodaeth gyda’r disgyblion.”
Ychwanegodd Shan Jones o Cyfle: “Mae ein gwaith gyda phobl ifanc trwy gyfrwng prosiectau fel hyn, yn dangos ein hymroddiad i ddarparu sgiliau a chyfleoedd sy’n realistig i ddyfodol y diwydiannau creadigol, a’r opsiynau gyrfa y gallant eu cynnig i bobl ifanc. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld rhai o’r bobl ifanc hyn yn gweithio yn y diwydiannau creadigol, ac o bosib yn mynychu cyrsiau Cyfle yn y dyfodol.”