Gwahoddir busnesau o Eryri i gyfres o ddigwyddiadau i lansio prosiect 'Eryri - un antur fawr' lle medrant glywed sut y gallant hwy elwa'n uniongyrchol.
Bydd y prosiect, a gefnogir gan yr Undeb Ewropeaidd, yn datblygu sector antur awyr agored yr ardal gyda'r nod o ledaenu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol i'r busnesau a chymunedau o amgylch drwy wella cyfleusterau a chyfleoedd busnes.
Y pedwar safle allweddol sy 'n cymryd rhan yn y prosiect yw Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog; Comisiwn Coedwigaeth Cymru Coed-y-Brenin, Dolgellau; Cymdeithas Pysgota Prysor, Trawsfynydd; a Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, Y Bala.
Yn ystod mis Mawrth gall busnesau - o ddarparwyr llety i fanwerthwyr - ymweld â phob safle i glywed am y prosiectau newydd sy'n cael eu lansio fel rhan o'r prosiect a deall sut y gallant ychwanegu gwerth i'w busnesau eu hunain fel canlyniad.
"Mae'n gyfle gwych i fusnesau weld sut y gallant fanteisio ar y cyfleoedd a datblygu," meddai'r Cynghorydd John Wynn Jones, Arweinydd Portffolio'r Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd, un o bartneriaid y prosiect.
"Rydym eisiau i fusnesau o'r ardal - o ddarparwyr llety i fanwerthwyr lleol - fynychu un neu'r holl ddigwyddiadau i weld beth sy'n digwydd ar garreg eu drws a deall sut y medrant fanteisio ar y fenter newydd gyffrous yma."
Ychwanegodd: "Mae twristiaid ac ymwelwyr bob dydd bob amser yn edrych am ffyrdd i wella eu profiad, ac os gall busnesau lleol roi hynny yna mae pawb ar eu hennill.
“Gallai fod yn unrhyw beth o ddarparu cyfleusterau ar gyfer beicwyr mynydd i lanhau a thrwsio eu beiciau mewn gwely a brecwast ar ôl diwrnod allan, i gynnig pecynnau a deliau arbennig mewn cysylltiad gyda'r prif ganolfannau prosiect sy'n cymryd rhan. Mae dewis enfawr o gyfleoedd all ddod â chyfleoedd economaidd newydd."
Y partneriaid tu cefn i'r prosiect £4 miliwn, a dderbyniodd gyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru yw Cyngor Gwynedd, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Cymdeithas Pysgota Prysor, Antur Stiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.
I fedru manteisio o'r cyfle cyffrous hwn, gall perchnogion busnes ddod draw ddydd Iau 8 Mawrth ar gyfer Antur Stiniog yn Cellb, Blaenau Ffestiniog; dydd Iau, 15 Mawrth yng Nghoed-y-Brenin (Comisiwn Coedwigaeth Cymru) ger Dolgellau; dydd Mercher 21 Mawrth yng Nghanolfan Ymwelwyr Magnox ar gyfer Cymdeithas Pysgota Prysor, Trawsfynydd; a dydd Iau 29 Mawrth yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, Y Bala.
Gall busnesau drefnu lle ym mhob un o'r digwyddiadau drwy ymweld â www.visitsnowdonia.info/onebigadventure, e-bost loisllewelynwilliams@gwynedd.gov.uk neu ffonio 07990 527201.