Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2012 > Chwefror
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Chwefror |
 

Annog pobl ifanc Gwynedd i wirfoddoli

Criw Actif y Bala
Criw Actif y Bala

Yn ystod hanner tymor cafodd 12 o bobl ifanc Gwynedd y cyfle i fynychu gweithdai hyfforddiant Criw Actif Gwynedd. Bu’r cyrsiau a gafodd eu cynnal yng Nghaernarfon ac yn Y Bala yn llwyddiannus dros ben.

Mae Criw Actif yn gynllun sydd wedi ei ysbrydoli gan Gemau Olympaidd 2012. Nod y cynllun yw annog pob ifanc i wirfoddoli yn eu cymunedau yn y maes chwaraeon, a rhoi cyfle iddynt ennill cymwysterau yn y maes.

Dros y misoedd nesaf bydd aelodau’r Criw Actif yn helpu i gynnal gweithgareddau mewn nifer o ysgolion (cynradd ac uwchradd), clybiau lleol a digwyddiad chwaraeon y sir. Mae cynllun yn rhedeg ers dwy flynedd ac mae nifer o bobl ifanc led y sir wedi cael cyfleodd gwych o ganlyniad i’r cynllun.

Mae aelodau Criw Actif yn rhan hanfodol o gynlluniau Gwynedd i ddathlu’r Gemau Olympaidd, ac yn cynnal gweithgareddau ledled y sir megis; Triathlon Uwchradd ac Athletau Neuadd Chwaraeon.

Dywedodd Huw Evans, Swyddog Pobl Ifanc Egniol Cyngor Gwynedd: “Mae’n wych gweld y bobl ifanc yma yn rhoi diwrnod o’i gwyliau i fynychu’r cyrsiau hyfforddiant. Mae pobl ifanc yn chwarae rôl hanfodol i’n bwriad ni yng Ngwynedd o sicrhau fod pob plentyn yn gwirioni ar chwaraeon am oes.

“Prif nod y cynllun yw rhoi profiadau a chyfleoedd i bobl ifanc gyrraedd eu potensial. Yn ystod y tair blynedd diwethaf rydym wedi gweld sawl aelod o Griw Actif yn mynd ymlaen i ennill cymwysterau megis Arweinwyr Pêl Droed, Hyfforddwyr Hoci a Hyfforddwyr Ffitrwydd.”

Os ydych chi yn berson ifanc dan 18 yn byw yng Ngwynedd, am ennill cymwysterau yn y maes chwaraeon ac yn barod i wirfoddoli, ewch draw i’r wefan:  www.gwynedd.gov.uk/criwactif am fwy o wybodaeth.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 20/02/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]