Mae Criw Actif yn gynllun sydd wedi ei ysbrydoli gan Gemau Olympaidd 2012. Nod y cynllun yw annog pob ifanc i wirfoddoli yn eu cymunedau yn y maes chwaraeon, a rhoi cyfle iddynt ennill cymwysterau yn y maes.
Dros y misoedd nesaf bydd aelodau’r Criw Actif yn helpu i gynnal gweithgareddau mewn nifer o ysgolion (cynradd ac uwchradd), clybiau lleol a digwyddiad chwaraeon y sir. Mae cynllun yn rhedeg ers dwy flynedd ac mae nifer o bobl ifanc led y sir wedi cael cyfleodd gwych o ganlyniad i’r cynllun.
Mae aelodau Criw Actif yn rhan hanfodol o gynlluniau Gwynedd i ddathlu’r Gemau Olympaidd, ac yn cynnal gweithgareddau ledled y sir megis; Triathlon Uwchradd ac Athletau Neuadd Chwaraeon.
Dywedodd Huw Evans, Swyddog Pobl Ifanc Egniol Cyngor Gwynedd: “Mae’n wych gweld y bobl ifanc yma yn rhoi diwrnod o’i gwyliau i fynychu’r cyrsiau hyfforddiant. Mae pobl ifanc yn chwarae rôl hanfodol i’n bwriad ni yng Ngwynedd o sicrhau fod pob plentyn yn gwirioni ar chwaraeon am oes.
“Prif nod y cynllun yw rhoi profiadau a chyfleoedd i bobl ifanc gyrraedd eu potensial. Yn ystod y tair blynedd diwethaf rydym wedi gweld sawl aelod o Griw Actif yn mynd ymlaen i ennill cymwysterau megis Arweinwyr Pêl Droed, Hyfforddwyr Hoci a Hyfforddwyr Ffitrwydd.”
Os ydych chi yn berson ifanc dan 18 yn byw yng Ngwynedd, am ennill cymwysterau yn y maes chwaraeon ac yn barod i wirfoddoli, ewch draw i’r wefan: www.gwynedd.gov.uk/criwactif am fwy o wybodaeth.