Oherwydd gwaith adnewyddu angenrheidiol i bibell ddŵr ger Nasareth, bydd Ffordd Duon - sef y ffordd oddi wrth y gyffordd a elwir yn Ffordd y Parc i gyfeiriad y gogledd at ei chyffordd gyferbyn a Hen Siop - ar gau am wythnos.
O ganlyniad, ni fydd y gwasanaethau bws 1 a 2 rhwng Nebo a Nasareth yn gallu gweithredu am y cyfnod hwn - o 11 Chwefror hyd 18 Chwefror 2012. Bydd bysiau yn gweithredu fel arfer o ddydd Sul, 19 Chwefror ymlaen.
I arbed unrhyw anghyfleustra bydd gwasanaeth tacsi yn rhedeg ar y cyd â’r amserlen y bws. Am dacsi ffoniwch 01286 881108.