Yn ystod y sesiynau dewisol gall drigolion o Wynedd sy’n 60 oed neu’n hŷn gael defnyddio pyllau nofio yng Ngwynedd am ddim. Os nad yw nofio yn ôl ac ymlaen o ddiddordeb i chi mae digon o weithgareddau dŵr eraill ar gael. Er enghraifft cerdded neu redeg yn y dŵr, sesiwn aquafit, gwersi nofio, sesiynau gwella strôc ac ymarfer corff aquagym.
Mae gan nofio lawer o fanteision, gan gynnwys: gwella ffitrwydd, tynhau cyhyrau’r corff, gwella ystum a hyblygrwydd a gwella cyflyru cardiofasgwlaidd. Gall raglen ymarfer sy’n cynnwys nofio gynorthwyo i ostwng pwysedd gwaed uchel gan leihau'r risg o glefyd y galon a strôc.
Dywedodd Dyfed Glyn Davies, Swyddog Datblygu Gweithgareddau Dŵr Cyngor Gwynedd: “Mae mwy a mwy o bobl dros 60 oed yn manteisio ar y cynllun nofio am ddim yma yng Ngwynedd, ac rydym yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynllun unwaith eto eleni.
“Mae manteision nofio yn ddiddiwedd, mae’n ymarfer corff perffaith ar gyfer colli pwysau, yn ogystal mae’r pwll yn le gwych i gyfarfod pobl newydd neu fynd â’ch ffrindiau gyda chi i gael hwyl. Gall nofio hefyd wneud i chi ymlacio'n llwyr ac mae’n ffordd wych o ryddhau straen.
“Cofiwch fod yn rhaid i chi gofrestru i dderbyn eich cerdyn nofio am ddim felly cysylltwch â’ch pwll nofio lleol am fwy o wybodaeth.”
Mae llawer o byllau nofio yn cynnig gweithgaredd am ddim gyda hyfforddwr cymwysedig bob wythnos, mae’r amseroedd a’r gweithgareddau yn amrywio ym mhob pwll, felly cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol o flaen llaw am fwy o fanylion.