Mae’r ymgyrch yn targedu lleiafrif o berchnogion cŵn sy’n parhau i dorri’r gyfraith wrth adael i’w cŵn faeddu lleoliadau cyhoeddus. Er bod y gwaith yn cynnwys Bangor gyfan, bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio mwy ar ardaloedd fel Eithinog, Coed Mawr a Bae Hirael, lle mae’r cyhoedd wedi nodi fod rhai perchnogion yn gwrthod glanhau ar ôl eu cŵn.
Mae’n drosedd gadael i gi sydd yn eich gofal faeddu mewn man cyhoeddus. Bydd unrhyw un sy’n anwybyddu’r gyfraith yn wynebu dirwy o hyd at £75 yn y fan a’r lle, un ai gan Wardeiniaid Gorfodaeth Cyngor Gwynedd, staff Morwrol a Pharciau Gwledig y Cyngor neu Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu. Os nad yw’r unigolyn yn talu’r ddirwy gallant dderbyn gwŷs llys a dirwy o hyd at £1,000.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Uwch Arweinydd Portffolio Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Mae baw ci ar y palmant neu mewn mannau cyhoeddus eraill yn achosi mwy o ofid nag unrhyw drosedd amgylcheddol arall. Gall baw ci achosi problemau iechyd sylweddol, yn enwedig felly ymhlith plant ifanc ac rydw i’n synnu fod rhai perchnogion yn ymddwyn mewn modd mor wrthgymdeithasol ac anghyfrifol.
“Er mwyn ymateb i hyn, bydd ein Wardeiniaid Gorfodaeth Stryd yn targedu ardaloedd lle’r ydym yn ymwybodol fod problem ar amseroedd pan ydym yn credu y bydd y rheini sy’n gyfrifol yn cerdded eu cŵn. Does dim esgus dros beidio glanhau ar ôl eich ci – mae’r fath ymddygiad yn gwbl annerbyniol.”
Mae’r Cynghorydd Elin Walker Jones, sy’n cynrychioli ward Glyder ym Mangor ar Gyngor Gwynedd, wedi bod yn helpu Balchder Bangor i godi ymwybyddiaeth o’r broblem yn lleol.
Dywedodd hi: “Dyw baw ci ddim yn broblem sy’n unigryw i’r ardal yma. Yn anffodus, mae’n broblem weledol sy’n effeithio ar aelodau o’r cyhoedd wrth iddynt geisio mwynhau’r awyr iach yn ardal Glyder. Yn ddiweddar mae’r ardal wedi elwa o fuddsoddiad mewn llwybr newydd sy’n cysylltu cymunedau Eithinog a Phenrhos - ac rydw i wedi derbyn nifer o gwynion am broblemau baw ci ar y llwybr yma yn ogystal â llwybrau eraill yn yr ardal.
“Mae’r broblem hefyd yn effeithio ysgolion cyfagos gan fod disgyblion a rhieni yn cerdded ar hyd y llwybrau yma i’r ysgol. Mae hyn yn gwbl afiach ac annerbyniol. Dwi’n gweithio gyda swyddog Trefi Taclus y Cyngor, swyddogion gorfodaeth stryd y Cyngor, yn trafod gyda’r ysgolion ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth ymhlith trigolion. Trwy daclo’r broblem ar y cyd y llwyddwn i leihau’r broblem. Cysylltwch a mi neu’r Cyngor yn uniongyrchol i holi am fagiau baw ci – maent ar gael am ddim.”
Yn ystod 2010-11, cyflwynodd Tîm Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd 185 o rybuddion cosb benodedig am fethu codi baw cŵn a throseddau amgylcheddol.
Sut allwch chi helpu?
Os ydych chi’n berchennog ci gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd â bagiau pwrpasol gyda chi wrth fynd a’r ci am dro. Gallwch roi baw ci sydd wedi ei rwymo mewn bag plastig mewn bin cyhoeddus neu ewch a fo adref a’i roi yn y bin.
Mae pecynnau clirio baw ci rhad ac am ddim ar gael gan Swyddog Trefi Taclus Cyngor Gwynedd ar 01766 771000 neu e-bostiwch trefitaclus@gwynedd.gov.uk
Taclo’r tacle
I adrodd am broblemau baw ci cysylltwch â Thîm Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd ar 01766 771000 neu ewch i www.gwynedd.gov.uk/gwnewch-o-ar-lein a dewis Adroddwch. Bydd unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi yn gyfrinachol.
Mae cynllun Trefi Taclus Cyngor Gwynedd yn cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru.