Mae arddangosfa Storïau a Siwrnai yn dathlu diwedd blwyddyn Nichola Goff a Michael McMillan fel artistiaid preswyl gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn rhedeg ochr yn ochr ag arddangosfa ‘Ffigwr yn Newid/Tirwedd yn Llifo', gan Elizabeth Ashworth.
Mae Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisoes wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau a digwyddiadau sy’n dod â chleifion, ymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff at ei gilydd gydag artistiaid a’r gymuned leol i fwynhau'r celfyddydau.
Dywedodd Nichola Goff artist/ gwneuthurwr print fu’n gweithio ar Ward Arennol yn Ysbyty Gwynedd:
“Fel artist preswyl rwyf wedi mwynhau’r sialensiau, y cynnwrf a’r hyfrydwch o weithio gyda chleifion sy’n derbyn triniaeth dialysis, y gofalwyr a’r staff. Cefais groeso cynnes yn y Ward Arennol, roedd y flwyddyn yn daith o hunan ddarganfyddiad fel artist drwy weithio mewn amgylchedd newydd a heriol. Roedd hefyd yn ddarganfyddiad i’r rhai oedd yn cymryd rhan, yn canfod bod ganddynt dalentau celfyddydol na wyddent amdanynt gynt.”
Mae’r arddangosfa ‘Ffigwr yn Newid/Tirwedd yn Llifo’, gan Elizabeth Ashworth yn ganlyniad wyth mis o waith gan yr artist o Lanfairfechan yn dilyn grant prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu ei thema.
Mae’r tirweddau i gyd o ogledd Cymru - yn aml draethau Ynys Môn a Llanfairfechan. Nid yw’r lluniau yn rhai realistic nac yn rhamantus ond yn archwilio syniad gwahanol o sut mae tirwedd sy’n newid yn gallu ein gorlethu, ac yn gwneud i ni deimlo yn unig. Ar yr un pryd bwriad yr artist yw i’r gwaith fod yn galonogol a dyrchafol.
Yn ogystal bydd arddangosfa gyffrous arall yn agor yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ar 21 Ionawr. Gan ddefnyddio dillad isaf a dillad arferol o gasgliad gwisgoedd eang Amgueddfa Gwynedd, mae’r arddangosfa ‘Newid Siâp' yn ei lle tan 14 Ebrill.
Mae’r oriel ar agor i’r cyhoedd: dydd Mawrth - Gwener 12:30 - 4.30, dydd Sadwrn 10:30 - 4:30. Mynediad am ddim. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r arddangosfa, cysylltwch ag Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor 01248 353368 neu ewch i www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd