Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2012 > Ionawr
 

Gwynedd yn nodi diwrnod rhyngwladol i gofio’r Holocost

Bydd pobl yng Ngwynedd yn ymuno a miloedd o wahanol genhedloedd y byd i gofio’r diniwed sydd wedi dioddef hil-laddiad mewn hanes modern.

Cynhelir gwasanaeth yn Neuadd Powis, Prifysgol  Bangor dydd Gwener , 27 Ionawr 2012 fel rhan o Ddiwrnod Coffau’r Holocost.

Mae Diwrnod Coffau’r Holocost yn cofio achosion o hil-laddiad yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn ogystal â thrychinebau mwy diweddar yn Cambodia, Bosnia, Rwanda a Darfur. Cynhelir y diwrnod ar ben-blwydd rhyddhau camp Auschwitz-Berkenau - gwersyll-garchar y Natsïaid lle collodd miloedd o Iddewon eu bywydau.

Bwriad Diwrnod Coffau’r Holocost yw ysgogi pobl i wneud yn siŵr nad yw digwyddiadau dychrynllyd a wnaed yn ystod yr Holocost, ac yn fwy diweddar ar ffurf hil-laddiad, yn cael eu hanghofio na’u hailadrodd, naill ai yn Ewrop nag yng ngweddill y byd.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd John Gwilym Jones: “Mae croeso i bawb fynychu’r gwasanaeth yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, gan ymuno a miloedd o bobl drwy’r byd i gofio’r gorffennol a gosod seiliau ar gyfer byd diogel a theg i’r dyfodol.”

Ychwanegodd Mr Wyn Thomas, Dirprwy  Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor: “Mae'n anrhydedd i ni fel Prifysgol gael cynnal digwyddiad o'r fath bwys a’r  Diwrnod Coffau'r Holocost blynyddol.”

Cynhelir y gwasanaeth yn Neuadd Powis, Prifysgol  Bangor am 10.30am ddydd Gwener, 27 Ionawr 2012.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 16/01/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]